Brethyn cyfan persli plentyn (c1890s)
Ref: 2001-2
Cwilt brethyn cyfan plentyn yw hwn, a wnaed ar ddiwedd y 1800au o ffabrig gwisg persli gwlân manweaidd. Mae’r cwilt wedi’i gwiltio â pheiriant, gyda medaliwn yn y canol. Blanced yw’r wadin.
Bu Dr Philip Sykas, Ymchwilydd Cyswllt ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion, yn astudio’r cwilt mewn gweithdy yng Nghanolfan Celfyddydau Minerva ym mis Medi 2009. Dygodd sylw at y ffaith y cynhyrchwyd y cwilt hwn ar ôl 1889 gan fod y ffabrig wedi’i liwio â choch Twrci synthetig. Gwnaed coch Twrci dilys gydol diwedd y 18fed a dechrau i ganol y 19eg ganrif, ac Alsace yn Ffrainc, Bro Leven i’r gogledd o Glasgow yn yr Alban, a Swydd Gaerhirfryn oedd y canolfannau lle byddai’n cael ei gynhyrchu.
Mae’r patrwm persli “deigryn” cyfarwydd yn tarddu o Iran ac India, ond fe fabwysiadodd gweithfeydd printio’r Alban ef, yn wreiddiol ar gyfer siolau a hefyd ar gyfer ffabrigau gwisgoedd. Rhoddwyd yr enw Saesneg arno ar ôl tref Paisley lle roedden nhw’n ei gynhyrchu mewn niferoedd arbennig o fawr.
Y gred yn draddodiadol oedd bod coch yn amddiffyn plant. Byddai gwlanen goch yn cael ei hongian o amgylch drws ystafell plentyn sâl.
Brethyn cyfan blodeuog (1900)
Ref: 2001-1
Cwilt brethyn cyfan a orffennwyd ym 1900 yw hwn, i goffáu genedigaeth Sarah Nicholas (Evans gynt) o Aberdâr, Morgannwg ar 5 Mawrth 1900. Byddai cwiltiau’n cael eu gwneud yn aml i ddathlu digwyddiadau arbennig, fel priodasau, pen-blwyddi ac, yn yr achos hwn, genedigaeth plentyn. Yna, byddai’r cwilt yn dod yn gofrodd pwysig am weddill oes y person, ac yna’n cael ei roi i aelodau iau o’r teulu yn eu tro. Yn amlwg, roedd cwiltiau’n aml yn fwy na gorchuddion gwely bob dydd; roedd cariad yn y gwaith, a’u diben oedd dod yn drysor teuluol.
Tref ddiwydiannol yw Aberdâr, yng nghalon ardal Rhondda Cynon Taf yn Ne Cymru. Roedd y teulu’n hanu’n wreiddiol o ardal Aberteifi/Caerfyrddin, ond symudodd o’r ffermydd yn Sir Benfro i fynd i weithio yn y pyllau glo. Roedd glo o safon dda wedi’i ddarganfod yn haenau Aberdâr, ac erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd cynhyrchiad ar ei anterth, ac roedd cyflogau’n sylweddol uwch na’r cyflogau roedd gweision fferm yn eu hennill.
Mae ffabrigau dodrefnu, â gwehyddiad twil cotwm, wedi’u defnyddio i wneud y cwilt. Mae’r lledau wedi’u pwytho â’i gilydd â pheiriant, ac mae eurflodau pinc i’w gweld ar y tu blaen, gyda phrint dail wedi’i ffurfioli ar y tu ôl, sy’n ffurfio streipiau gwyrdd a brown. Mae’n debygol bod y cwilt wedi’i lenwi â gwlân a gasglwyd o’r bryniau lleol a’i lanhau a’i gribo.
Mae’r cwilt brethyn cyfan wedi’i gwiltio mewn sgwariau i greu effaith clytwaith, gyda sgwariau wedi’u cwiltio’n lletraws yn agos at ei gilydd a sgwariau croeslinellog lletach bob yn ail. Mae’r ymylon wedi’u bytio.
Brethyn cyfan brown golau (c1930s)
Ref: 2005-1-A
Un o ddau gwilt y gwnaed rhodd ohonyn nhw gan y teulu Pinion-Jones yw hwn. Teulu Mrs Pinion-Jones oedd yn berchen arno, ac fe’i gwnaed gan ei mam neu ei nain. Roedd y teulu’n hanu o Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol. Mrs Pinion-Jones oedd gwraig y Parchedig John Pinion-Jones, cyn weinidog y Capel Presbyteraidd yn Stryd China, Llanidloes. Gwnaeth y pâr ymddeol i Aberaeron o gwmpas 2006. Mae’n bur debyg mai yn y 1930au y gwnaed y cwilt, adeg yr adfywiad cwiltiau yn ne Cymru a hybwyd gan y Swyddfa Diwydiannau Gwledig.
Mae’n debygol mai porffor golau oedd y cwilt brethyn cyfan hwn (2070 x 1660mm) a gafodd ei gwiltio’n gain â llaw ac sydd bellach wedi pylu i frown golau. Porffor yw’r edau o hyd. Mae wedi’i wneud o satîn cotwm, gydag wadin gwlân, a phatrwm blodeuog ar y satîn cotwm ar y cefn. Mae’r symbolau cwiltio’n nodweddiadol Gymreig – mae yna droellau o amgylch y border, medaliwn yn y canol, a ffaniau. Mae wedi’i orffen ag ymylon wedi’u bytio.
Gwnaed rhodd o 2001-5-B, sef cwilt brethyn cyfan pinc, gan y teulu Pinion-Jones ar yr un pryd.
Arddangoswyd y cwilt yng Nghanolfan Celfyddydau Minerva yn ystod arddangosfa haf 2006, Rhedeg Dwbl.
Brethyn cyfan persli
Ref: 2002-18-A
Cwilt brethyn cyfan naill ochr yw hwn, mewn ffabrigau persli satîn cotwm a wnaed yng nghymoedd De Cymru. Mae gan y naill ochr gefndir glas gwyrdd ac mae gan y llall gefndir hufen. Cafodd ei gwiltio â llaw mewn stribedi, gyda phwythau mawr anwastad mewn edau wen dwy gainc, ac mae’r ymylon wedi’u bytio.
Sarah Ann Davies (1862 – 1944), a aned ym Mhontrhydyfen, oedd y gwiltwraig. Bu farw ei mam o’r diciâu pan roedd yn ddwyflwydd, a magwyd hi’n gariadus gan ei llysfam. Oherwydd tlodi, bu’n rhaid iddi adael cartref pan roedd yn 10 oed, i ddod yn llaethferch yn Llangyfelach ac, yn ddiweddarach, yng Nghastell-nedd. Byddai’n dod adref wedi ymlâdd yn llwyr ar ei dyddiau prin i ffwrdd o’r gwaith. Rhoddai ei llysfam groeso cynnes iddi, ond ar ôl ei rhoi i eistedd wrth y tân gyda chwpanaid o de poeth, byddai’n rhoi hosan wedi hanner ei gwau neu ddarn o waith gwnïo iddi weithio arno.
Priododd Sarah Ann â David Davies yn Aberdâr, a dechreuodd wnïo cwiltiau i’w theulu ei hun a oedd yn cynyddu’n gyflym. Glöwr oedd David, a flinodd ar yr aflonyddwch diwydiannol parhaus yn yr ardal, ac a symudodd y teulu o Aberdâr i Abertridwr lle cafodd waith yng Nglofa Windsor. Ganwyd wyth plentyn i Sarah ond bu farw nifer ohonyn nhw’n ifanc iawn. Bu’n brwydro’n galed trwy gydol ei bywyd yn erbyn y tlodi enbyd a wynebai. Fodd bynnag, roedd ei safonau bob amser yn uchel a byddai’r tŷ’n sgleinio – ni wastraffwyd ceiniog a gwnaed defnydd da o bopeth.
Mae gan y Gymdeithas Gwiltiau nifer o gwiltiau clytwaith Sarah, a wnaed o ffabrigau “wedi’u hailgylchu” a llyfrau patrymau o siopau defnyddiau yn Abertridwr. Mae’r brethyn cyfan hwn yn eithriad o bosibl – wedi’i wneud i fod y gorau. Wrth i’w merched dyfu, fe ddysgodd Sarah nhw i wneud clytwaith a chwiltio. Cofia Eunice, ei merch, gael ei dysgu’n blentyn i wnïo’r clytiau at ei gilydd ac yna, pan roedd yr wynebau wedi’u gorffen, deuai’r ffrâm gwiltio o’r tu ôl i’r soffa rhawn er mwyn dechrau’r broses gwiltio.
Brethyn cyfan cotwm (c1900)
Ref: 2001-8-A
Lizzie Jane Williams a wnaeth y cwilt brethyn cyfan cotwm hwn tua 1900. Tom Williams oedd ei gŵr, ac roedd y ddau yn byw yn Fferm Cwm Llynfe, Llansadarn, ger Llanymddyfri, ar ymyl gogledd-orllewin Bannau Brycheiniog. Roedd eu mab yng nghyfraith, John Ernest Roberts, yn rhedeg Siop Dillad Dynion R Roberts & Sons, sef busnes teuluol, yn Nhŷ Cambrian yn Llanidloes. Pan symudodd Ken, mab John, i Lwydlo, doed o hyd i nifer o gwiltiau Lizzie ac fe’u prynwyd gan y Gymdeithas Gwiltiau.
Mae un ochr y cwilt wedi’i wneud o ffabrig cotwm cain â phatrwm dail a choesynnau ymlusgol ar hyd-ddo. Ffabrig hanner-galar o’r 19eg ganrif ydyw o bosibl. Yn oes Victoria, byddai menywod yn gwisgo mewn ffordd benodol os oedden nhw’n galaru ar ôl colli gŵr. Ar ôl y cyfnod cyntaf yn gwisgo ffabrig du (am flwyddyn a diwrnod), roedd yna gamau galaru pellach, gan gynnwys ail alar (naw mis) a hanner-galar, pan ganiatawyd gwisgo ffabrigau a oedd yn raddol fwy addurnol. Print â dau liw porffor yw hwn, a wnaed mae’n debyg trwy ddefnyddio lliw naturiol (o wraidd planhigyn y wreiddrudd wyllt). Mae’r print yn groyw iawn. Mae’n siŵr y defnyddiwyd tri rholer i brintio’r ffabrig: un ar gyfer y cefndir dotiog, un ar gyfer y brigau tywyllaf, ac un ar gyfer mewnlenwi dail y brigau.
Mae’r cwilt wedi’i gwiltio â llaw ag edau gotwm wen. Mae yna fedaliwn canolog ag ymylon, yn cynnwys troellau, calonnau, delltwaith a phatrwm igam-ogam. Mae rhai llinellau sialc glas i’w gweld o hyd ar du blaen y cwilt lle lluniwyd y patrymau cwiltio.
Brethyn cyfan persli
Ref: 2006-5
Cwilt brethyn cyfan persli o ardal Aberhonddu yng Nghanolbarth Cymru yw hwn. Rhoddwyd ef i Project Linus*, ac yna gwnaethon nhw ei roi i’r Gymdeithas Gwiltiau’n gyfnewid am rodd.
Mae’r cwilt wedi’i wneud o satîn cotwm, gyda phersli gwyrdd ar y naill ochr a gwyrdd plaen ar y llall. Blanced wlân dywyll yw’r wadin. Mae wedi’i gwiltio â llaw ag edau gotwm werdd, ac arno ceir symbolau cwiltio Cymreig nodweddiadol, gan gynnwys medaliwn canolog â throellau, calonnau a dail. Mae’r ymylon wedi’u bytio â’i gilydd.
* Mae Project Linus yn rhoi synnwyr o ddiogelwch a chysur i fabanod, plant a phobl yn eu harddegau sy'n sâl ac wedi'u trawmateiddio, trwy ddarparu cwiltiau newydd wedi'u gwneud â llaw a blancedi wedi’u gwau/crosio. Mae yna fwy o wybodaeth amdanyn nhw yn - www.projectlinusuk.org.uk
Brethyn cyfan gwyn (1913)
Ref: 2008-4
Brethyn cyfan gwyn Cymreig yw hwn a wnaed gan Sarah Jane James o Landuloch, Sir Benfro, ym 1913. Roedd Sarah yn chwaer i’r capten môr John Lloyd James o Dyrhedyn, y Stryd Fawr, Llanuloch.
Mae’r brethyn cyfan hwn, sy’n mesur 1935 x 1820mm, wedi’i wneud o satîn cotwm gwyn. Mae wedi’i gwiltio â llaw mewn edau gwyn, gyda medaliwn canolog, blodau, dail a throellau – symbolau nodweddiadol o gwiltio Cymreig. Un nodwedd sy’n wahanol i lawer o frethynnau cyfan eraill yw’r ffaith bod y dyddiad wedi’i frodio i ganol y cwilt, ynghyd â llythrennau blaen y gwneuthurwr, sy’n golygu nad oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â’r dyddiad y cafodd ei wneud. Pwyth conyn mewn edau melyn ceinciog sydd wedi’i ddefnyddio i wneud y brodwaith. Gwlân yw’r wadin, ac mae’r ymylon wedi’u bytio.
Roedd y cwilt yn rhan o etifeddiaeth nith Sarah, sef Ailwyn Lloyd James. Bu hithau hefyd yn byw yn Nhyrhedyn am beth amser gyda modryb arall, sef Kitty Griffiths. Ni fu Ailwyn yn briod, ac ewyllysiodd y cwilt i ffrind i’r teulu. Gwnaed rhodd ohono i’r Gymdeithas yn ddiweddarach.
Brethyn cyfan Art Deco (c1920s)
Ref: 2006-3
Cwilt brethyn cyfan Cymreig yw hwn, gyda chwiltio tra chain yn dangos dylanwadau Art Deco. Fe’i gwnaed yn yr 1920au neu’r 30au, a lliw coffi ydyw ar y tu blaen, gyda phinc ar y tu ôl. Wadin gwlân sydd ynddo.
Daeth Art Deco i’r amlwg yn negawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif wrth i’r pethau a oedd yn dylanwadu ar ddyluniadau ddechrau newid o ffurfiau organig Art Nouveau. Seiliwyd ef ar siapau geometrig, a dylanwadwyd arno gan sawl mudiad celf, fel Ciwbiaeth a Dyfodolaeth. Cafodd ddylanwad ar bensaernïaeth a dyluniad dodrefn, ond fe ysbrydolodd lawer o batrymau ffabrig trawiadol iawn hefyd, ac yma mae wedi dylanwadu ar y patrymau cwiltio. Ceir seren fawr yn y canol, gyda dail y gastanwydden, troellau, rhosod, ffaniau a mwy fyth o sêr arddulliedig o’i hamgylch. Mae’r cwilt wedi’i gwiltio’n hyfryd â llaw mewn edau binc, ac mae’r ymylon wedi’u bytio.
Brethyn cyfan marŵn a mwstard (c1880s)
Ref: 2001-8-E
Lizzie Jane Williams a wnaeth y cwilt brethyn cyfan hwn o wlanen gwlân tua 1900. Tom Williams oedd ei gŵr, ac roedd y ddau yn byw yn Fferm Cwm Llynfe, Llansadarn, ger Llanymddyfri, ar ymyl gogledd-orllewin Bannau Brycheiniog. Roedd eu mab yng nghyfraith, John Ernest Roberts, yn rhedeg Siop Dillad Dynion R Roberts & Sons, sef busnes teuluol, yn Nhŷ Cambrian yn Llanidloes. Pan symudodd Ken, mab John, i Lwydlo, doed o hyd i nifer o gwiltiau Lizzie ac fe’u prynwyd gan y Gymdeithas Gwiltiau.
Mae’r cwilt brethyn cyfan naill ochr hwn yn mesur 2230 x 1942mm, ac mae wedi’i wneud o wlanen gwlân gwehyddiad plaen, o liw marŵn ar y naill ochr a lliw mwstard ar y llall. Mae wedi’i gwiltio’n gain â llaw mewn edau du, gyda chalonnau yn yr ymylon, a hefyd ffaniau a cheblau.
Mae’r cwilt hwn wedi’i arddangos sawl tro, gan gynnwys yn sioe haf "Y Cwiltiau Cochion” 2005, yng Nghanolfan Adnoddau Llyfrgell Llwydlo a Chanolfan Celfyddydau Caergybi ar Ynys Môn.
Brethyn cyfan coch a phinc (c1880s)
Ref: 2009-1-H
Cwilt brethyn cyfan naill ochr yw hwn, mewn satîn cotwm print coch a phinc, a gwnaed ef ar ddiwedd y 19eg ganrif. Prynwyd ef oddi wrth y teulu o Swydd Gaer a oedd, cyn hynny, wedi gwneud rhodd o saith eitem arall i gasgliad y Gymdeithas, gan gynnwys cwrlidau hecsagonau, cwiltiau appliqué a chwiltiau brethyn cyfan.
Coch yw lliw ochr 1, gyda dyluniad blodeuog melyn; pinc yw ochr 2, gyda losennau gwyrdd â symbolau persli y tu mewn iddyn nhw. Mae wedi’i gwiltio’n daclus â llaw mewn edau goch, ac arno ceir medaliwn yn y canol, ffaniau, croeslinellau ac yna border â throellau a chyrn hwrdd.
Mae blanced wedi’i defnyddio ar gyfer y wadin. Mae ymylon y cwilt sydd wedi’u bytio wedi’u pwytho â pheiriant mewn edau coch tywyll, gan ddefnyddio llinell donnog fel patrwm border cul. Nid yw’r cwilt hwn wedi’i ddefnyddio rhyw lawer, ac mae’r ffabrigau mewn cyflwr hynod dda mewn lliwiau llachar a neilltuol.
Gorchuddion clustogau o’r 1950au
Ref: 2009-6-A
Y rhoddwr a wnaeth y gorchuddion clustogau hyn sydd heb eu gorffen, ar ddechrau’r 1950au yn Sir Benfro. Roedd Sefydliad y Merched wedi adfywio cwiltio a gwnaeth athrawes a chwiltiwr profiadol, Mavis Fitzrandolph, gydlynu’r rhaglen a barhaodd tan y 1960au.
Fe ysgrifennodd Mavis Fitzrandolph ambell i lyfr ar gwiltio, gan gynnwys “Traditional Quilting – Its Story and Its Practice” a “Quilting”. Roedd hi â’i bryd ar gasglu straeon am gwiltio yn yr oes honno, ac ar danio brwdfrydedd rhai newydd a oedd yn mabwysiadu’r grefft.
Cyflogwyd Mavis yn wreiddiol gan y Swyddfa Diwydiannau Gwledig yn y 1930au i edrych ar hyfywedd cefnogi cwiltio fel diwydiant twf yn Ne Cymru a Gogledd Ddwyrain Lloegr. Fe drefnodd y Swyddfa ddosbarthiadau cwiltio ar gyfer menywod, fe helpodd i hybu eu cynhyrchion i brynwyr uchel-radd, fel gwestai a siopau pen ucha’r farchnad, ac fe gefnogodd nhw i brynu ffabrigau a chyflenwadau eraill. Daeth llawer o’r dosbarthiadau cwiltio gwreiddiol i ben pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, ond daeth Mavis yn weithgar yn y pumdegau yn sgil gwaith Sefydliad y Merched i adfywio diddordeb yn y grefft.
Mae yna ddau orchudd clustogau sydd heb eu gorffen, y naill mewn pinc golau a’r llall mewn gwyrdd, a’r ddau ohonyn nhw’n rhyw 45cm sgwâr. Mae’r gorchuddion o ffabrig reion wedi’u cwiltio â llaw mewn arddull brethyn cyfan dros wadin gwlân. Mae yna ddau batrwm cwiltio i’w gweld – patrwm cregyn mewn edau binc a phatrwm gwydr gwin mewn gwyrdd. Mae’r brasbwythau’n dal i fod yn eu lle o amgylch yr ymylon.
Brethyn cyfan Sir Benfro (1935)
Ref: 2012-7
Mary Ann Thomas wnaeth y cwilt brethyn cyfan hwn. Llaethferch oedd hi, yn gweithio mewn tŷ mawr ger Boncath yn Sir Benfro, yn ne-orllewin Cymru. Anrheg Mary Ann i briodferch ym 1935 oedd y cwilt. Yn 2012, gwnaeth merch y briodferch rodd o’r cwilt i’r Gymdeithas Gwiltiau.
Mae’r hyn sy’n edrych fel tu blaen y cwilt wedi’i wneud o satîn cotwm glas sydd wedi pylu ar ôl bod mewn gormod o olau. Mae’r satîn yn binc dwfn ar y cefn, sy’n awgrymu na ddefnyddiwyd yr ochr hon mor helaeth. Byddai rhai cwiltiau priodas yn cael eu gwneud i’w defnyddio y naill ochr neu’r llall, mewn glas neu binc fel ei bod hi’n bosibl, pan fyddai baban yn dod i’r byd yn ddiweddarach, y gellid ei osod ar yr ochr a oedd â’r lliw priodol pan fyddai pobl yn dod i weld y baban, neu pan fyddai meddyg yn ymweld ar ôl ei eni. Efallai i’r briodferch hon gael mwy o fechgyn a dyna pam y mae ôl mwy o draul ar yr ochr las! Yn aml, dim ond ar gyfer achlysuron arbennig y byddai cwiltiau priodas yn dod allan, fel genedigaeth plentyn. Yna, fe fyddai’n cael ei blygu a’i roi i gadw. O’r herwydd, byddai cwiltiau priodas yn aml yn aros mewn cyflwr da. Mae’r cwilt hwn wedi’i lenwi â gwlân gyda blancedi i gadw’r gwlân yn ei le.
Mae’r cwilt wedi’i gwiltio â llaw yn fentrus ac yn brydferth mewn edau coch tywyll. Mae yna fedaliwn yn y canol gyda borderi, ac mae motiffau Cymreig syml wedi’u defnyddio’n drawiadol, gan gynnwys troellau, dail, ffenestri eglwys (hanner cylchoedd yn gorgyffwrdd a ddefnyddir yn y borderi), ffaniau yn y corneli, croeslinellu a cheblau. Mae’r ymylon wedi’u bytio â’i gilydd a’u gorffen â pheiriant.
RIB brethyn cyfan pinc (c1930s)
Ref: 2012-6
Gwnaed y brethyn cyfan pinc hwn â fflowns gan gwiltiwr o Ferthyr Tudful yn Ne Cymru. Bu’r cwilt mewn cystadleuaeth, a chafodd ei arddangos yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ym 1953 i goffáu coroni Brenhines Elizabeth II. Mae yna ffotograff du a gwyn o’r cwilt gwreiddiol yn llyfrgell y Swyddfa Diwydiannau Gwledig. Mae yna fwy o wybodaeth am gynllun y Swyddfa Diwydiannau Gwledig ar gyfer cwiltwyr yng nghymoedd De Cymru yn y 1930au i’w gweld yma.
Mae’r cwilt wedi’i wneud o boplin sidan mewn lliw samwn. Gwlân wedi’i gribo’n dda yw’r wadin, ac mae yna hefyd haen o fwslin tenau i atal y gwlân rhag cael ei dynnu i fyny i’r wyneb. Mae rhywun wedi ychwanegu at y cwilt gwreiddiol ar bob un o’r pedair ochr, a phwythwyd fflowns yn ddiweddarach â pheiriant ar dair ochr y darn a oedd wedi’i ehangu. Roedd ffriliau’n boblogaidd yn y 1930au, ac roedden nhw’n ffasiynol eto yn y 1950au.
Ar y brethyn cyfan, ceir cwiltio cain a manwl â llaw mewn edau lliw samwn. Mae yna fedaliwn yn y canol, gyda borderi. Mae’r borderi, sydd wedi’u croeslinellu, wedi’u pwytho â llaw at y prif gwilt. Mae’n bosibl mai gorchudd gobennydd oedd y darn cwiltiog sydd wedi’i ychwanegu at y pen. Ffabrig cotwm gwyn sydd ar y cefn.
Mae yna nodyn ar gefn ffotograff y Swyddfa Diwydiannau Gwledig sy’n nodi bod y border crogwelyau dwbl ar y cwilt pinc hwn hefyd i’w weld yng ngogledd Lloegr, a bod y corneli ffaniau a’r seren yn y canol wedi’u seilio ar unedau traddodiadol, ond wedi’u trin mewn modd gwreiddiol.
Brethyn cyfan Cymreig blodeuog (c1900s)
Ref: 2014-1-A
Letitia Davies a wnaeth y cwilt brethyn cyfan hyfryd hwn yn ardal Llandeilo yn ne Cymru, mae’n debyg ar ddechrau’r 20fed ganrif. Letitia a wnaeth y cwilt clytwaith hecsagon 2000-2-A sydd i’w weld yma hefyd.
Mae’r cwilt naill-ochr hwn yn cynnwys ffabrigau satîn blodeuog trawiadol mewn pinc a melyn ar y naill ochr, a glas a phinc ar y llall. Mae’n bur debyg mai cwilt priodas ydoedd. Roedd ochrau glas a phinc yn ddewisiadau poblogaidd gan y byddai wedi bod yn bosibl ei droi i’r ochr briodol ar ôl genedigaeth plentyn. Mae ffabrigau o wahanol feintiau wedi’u huno ac yna maen nhw wedi’u pwytho â pheiriant i wneud dwy ochr y gorchudd cwilt. Gwlân oen wedi’i gribo yw’r wadin.
Mae’r cwilt wedi’i gwiltio’n hynod gain â llaw, mae’n debyg o’r ochr las. Mae arddull y cwiltio’n nodweddiadol Gymreig, gyda medaliwn yn y canol sy’n cynnwys calonnau â borderi, troellau a dail o’u hamgylch. Mae’r ymylon wedi’u bytio â’i gilydd ac wedi’u gwnïo â llaw yn daclus
Brethyn cyfan Cymreig blodeuog
Ref: 2014-4
Daeth y cwilt brethyn cyfan naill-ochr hwn o ardal Treforys yn Abertawe. Mae’n debyg mai yn ystod blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif y cafodd ei wneud. Nain cefnder y rhoddwr – sef Mary Hannah Rees – oedd berchen arno, ac yna cafodd ei roi yn ei dro i eraill trwy’r cenedlaethau. Y gred yw i Mary dderbyn y cwilt ym 1912, pan gafodd ei mab ei eni.
Ar ddwy ochr y cwilt ceir ffabrigau dodrefn o satîn cotwm blodeuog yn y panel canolog. Thema las sydd i’r naill ochr, a phinc i’r llall, fel y gellid defnyddio’r cwilt y naill ochr neu’r llall pan fyddai baban yn cael ei eni. Mae patrwm y ffabrig yr un fath ar y ddwy ochr yn y cyfuniadau lliwiau gwahanol. Mae’r border yn frown euraidd ar ochr y ferch ac yn las ar ochr y mab. Mae’r glas wedi colli llawer o’i liw, mae’n bosibl oherwydd mai dyma’r ochr y byddai Mary wedi’i defnyddio fwyaf pan gafodd ei mab ei eni.
Mae gan y cwilt ddau wadin gwahanol, ac mae’n bosibl mai cwilt neu flanced yw un ohonyn nhw. Mae yna wrym lle mae’r ddau fath o wadin yn cyfarfod. Mae’r darnau ffabrig wedi’u pwytho â pheiriant, ac yna mae’r tair haen wedi’u cwiltio’n gain â llaw mewn edau hufen. Mae’r patrwm yn cynnwys cylchoedd consentrig, gyda diemwntau rhwng y cylchoedd allanol. Mae yna ffaniau yn y corneli a chroesau wedi’u cwiltio rhwng y cylchoedd yn y borderi. Mae’r ymylon wedi’u bytio.
Yn ôl y rhoddwr: “Dw i’n gwybod bod fy mam bob amser yn falch ohono fel enghraifft wych o’r arddull Gymreig.”
RIB brethyn cyfan gwyrdd (c1900s)
Ref: 2013-6
Brethyn cyfan Cymreig nodweddiadol o’r 1930au mewn satîn cotwm gwyrdd golau a wnaed fel rhan o gynllun y Swyddfa Diwydiannau Gwledig yng nghymoedd De Cymru. Sefydlwyd y Swyddfa Diwydiannau Gwledig ym 1928 i annog diwydiannau crefftau bach mewn ardaloedd o amddifadedd economaidd, gan gynnwys y Porth yng Nghwm Rhondda. Cynhyrchodd grŵp y Porth waith o ansawdd uchel dan hyfforddiant medrus Miss Jessie Edwards, sef athrawes y grŵp. Talwyd am yr holl ddeunyddiau gan y Swyddfa Diwydiannau Gwledig a aeth ati wedyn i ddod o hyd i orielau a siopau pen ucha’r farchnad yn Llundain i werthu’r gwaith. Er i gynllun y Swyddfa Diwydiannau Gwledig ddod i ben pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, fe lwyddodd i wella safonau cwiltio yng Nghymru. Cynhyrchodd cenhedlaeth newydd o gwiltwyr gwiltiau traddodiadol Gymreig o ansawdd uchel, ac fe aeth nifer helaeth ohonyn nhw y tu hwnt i ffiniau Cymru, gan gynnwys hwn. Mae rhoddwr y cwilt yn hanu o Swydd Lincoln, ond cyn hynny roedd teulu yn Surrey wedi’i ddefnyddio.
Mae’r patrwm cwiltio yn un o’r patrymau hynny a ddefnyddiwyd gan y Swyddfa Diwydiannau Gwledig a gellir ei weld ym Mhlât 57 y llyfr “English Quilting Old & New” gan Elizabeth Hake. Yn ôl y disgrifiad yn y llyfr, mae’r patrwm yn nodweddiadol Gymreig, gan Grŵp y Porth, Cwm Rhondda. Mae’n cynnwys motiff diemwnt yn y canol, wedi’i lenwi â naw diemwnt llai, ar faes sgwâr o ddelltwaith dwbl. Mae’r diemwnt yn y canol yn cynnwys motiff blodyn; mae’r lleill yn cynnwys motiffau pedair deilen a phedair troell bob yn ail. Mae’r border mewnol yn cynnwys diemwntau a thrionglau, wedi’u llenwi â motiffau dwy droell a thair deilen. Mae’r border canol o ddelltwaith dwbl yn cynnwys wyth motiff pedair deilen. Mae troellau mawr yn llenwi’r border allanol. Mae’r cefn wedi’i wneud o satîn cotwm gwyrdd golau. Gwlân trwchus wedi’i gribo yw’r wadin.
Mae yna gwilt tebyg, ond mewn poplin cotwm hufen, yng nghasgliad cwiltiau Amgueddfa Cymru ac mae hwn i’w weld ar dudalen 6 o ddelweddau cwiltiau ar y wefan yma. Roedd yn un o’r cwiltiau yn arddangosfa 2010 o’r enw Hidden Histories Untold Stories yn amgueddfa V&A yn Llundain.
Brethyn Cyfan Aur Melyn
Ref: 2017-1-B
Gwnaed y cwilt brethyn cyfan Cymreig hwn yng Ngwm Rhondda, rywbryd yn yr 1920au neu’r 1930au. Mae’n bosibl mai cwilt Cymmer ydyw, gan ei fod yn debyg iawn i’r rhai a gynhyrchwyd gan y grŵp o’r un enw, sef un o nifer a sefydlwyd gan y Swyddfa Diwydiannau Gwledig yn Ne Cymru i adfywio’r grefft o gwiltio. Yn gyffredinol, gwnaed gwaith pob grŵp yn arddull athro penodol. Nid yw’n glir a fwriadwyd y cwilt i fod yn un naill ochr.
Gwnaed un ochr o ddau ddarn o gotwm melyn/ aur gwehyddiad plaen wedi’u huno i lawr y canol. Gwnaed yr ochr arall o ffabrig cotwm persli pastel amryliw. Mae’r ochr persli wedi pylu er y gellir gweld y lliwiau gwreiddiol trwy’r bylchau ar yr ymylon. Fflaneléd yw’r wadin ac mae’r cwilt wedi’i gwiltio â llaw mewn edau gotwm wen gydag ambell gwlwm yn dangos trwodd ac mae yna ychydig o frasbwythau pinc i’w gweld ar hyd un o’r ymylon. Mae yna fedaliwn yn y canol mewn sgwâr ar ei ochr â blodyn pedwar petal a throellau yn y corneli. Mae un rhan fechan heb ei chwiltio.
Mae llinellau dwbl yn diffinio’r tri border. Mae gan y border cyntaf ddyluniad o swagiau a chynffonnau gyda dau swag yn y corneli. Mae gan forder rhif dau ddyluniad o droellau parhaus. Mae gan y trydydd border a’r olaf – sy’n lletach na’r ddau flaenorol – batrwm o naill ai dail wedi’u cordeddu neu diwlipau dau betal ar gefndir wedi’i groeslinellu. 2050mm x 1630mm.
Cwilt Priodas o’r 1930au
Ref: 2017-1-D
Gwnaed y cwilt hwn yn ardal Tyddewi, Sir Benfro yn y 1930au. Cwilt brethyn cyfan yw hwn o satîn cotwm oren ar yr ochr ar i fyny a satîn cotwm lliw lafant (bellach wedi pylu) ar y cefn. Mae’r cwilt wedi’i gwiltio â llaw ag edau oren, a chotwm yw’r wadin. Mae ganddo fedaliwn yn y canol o bedair calon fawr ac mae’r dyluniad yn cynnwys calonnau llai, troellau, ffenestri eglwys a gwydrau gwin yn y borderi. 2020mm x 2085mm.
Brethyn Cyfan Gwyrdd gyda Ffril
Ref: 2017-1-E
Brethyn cyfan gwyrdd Cymreig yw hwn gyda ffril ar ddwy ochr, a wnaed yn Sir Gaerfyrddin yn y 1930au neu’r 1940au. Gwnaed yr ochr ar i fyny o satîn cotwm gwyrdd golau ac mae’r cefn mewn ffabrig gwehyddiad plaen (reion o bosibl) â phatrwm gwyrdd golau blodeuog. Mae’r wadin yn teimlo’n bur galed a lympiog, sy’n awgrymu mai capoc neu eilban ydyw, sef ffabrig gwlân sydd wedi’i ailgylchu. Gwnaed y cwiltio â llaw mewn edau gotwm gwyrdd tywyll. Mae yna stribed o dri blodyn mawr i lawr y canol â dail, calonnau, croeslinellu a chylchoedd mewn pwythau plu o’u hamgylch. 2200mm x 1803mm
Brethyn Cyfan Gwyrdd Cymreig
Ref: 2017-1-F
Cwilt sylfaenol bob dydd Cymreig yw hwn o’r 1930au/1940au. Gallai’r ffabrig gwyrdd golau, a ddefnyddir mewn stribedi ar gyfer y ddwy ochr, fod yn gymysgedd o gotwm neu’n un ffeibr o waith llaw dyn. Mae wedi’i wehyddu’n dynn iawn felly fe fyddai wedi bod yn anodd i’w gwiltio. Pwythwyd y stribedi at ei gilydd â pheiriant. Mae’r wadin yn eithaf trwchus a lympiog, sy’n awgrymu mai capoc neu eilban ydyw, sef ffabrig gwlân sydd wedi’i ailgylchu.
Cwiltiwyd y cwilt yn syml â llaw mewn edau gotwm wen sydd wedi torri mewn sawl man ac felly mae yna glytiau nad ydyn nhw bellach wedi’u cwiltio. Mae’r dyluniad yn cynnwys rhesi o olwynion a blodau â chroeslinellu rhyngddyn nhw. 1725mm x 1680mm
Cwilt Brethyn Cyfan ag Ymyl Sgolop
Ref: 2017-1-J
Prynodd y rhoddwr hwn mewn seminar a gynhaliwyd yn 2011 gan y Grŵp Astudio Cwiltiau Prydain yn Neuadd Gregynog ym Mhowys. Mae’n dyddio o’r 1930au ac yn tarddu o bosibl o grŵp cwiltwyr y Cymmer, un o nifer o grwpiau a gafodd eu sefydlu gan y Swyddfa Diwydiannau Gwledig yn Ne Cymru yn y 1930au i adfer crefftau traddodiadol fel cwiltio. Mae ganddo bethau sy’n debyg i gwiltiau eraill a gynhyrchwyd gan y grŵp. Mae ganddo ddyluniad a gynlluniwyd yn ofalus ac ymyl sgolop ddiddorol. Gwnaed y cwilt, sy’n un naill ochr, o satîn cotwm, mewn gwyrdd golau ar un ochr a dau arlliw pinc ar y llall. Mae yna fedaliwn yn y canol o gylchoedd yn gorgyffwrdd, dau forder ac yna ymyl sgolop. Mae llinellau dwbl o bwythau yn gwahanu’r borderi. Gwnaed y cwiltio â llaw ag edau binc mewn pwythau bychain, cyson. Mae’r cwilt yn esiampl dda o gwiltio Cymreig ac, oherwydd ymylon y gwaith, mae’n bosibl gweld strwythur y cwilt.
1618mm x 1955mm.
Brethyn Cyfan Pinc Golau
Ref: 2017-1-L
Cwilt brethyn cyfan sydd ag ôl traul arno ac sydd wedi’i ddefnyddio’n helaeth yw hwn, yn dyddio o’r 1930au gydag atgyweiriadau i’r ymylon. Cafwyd hwn o siop elusen yn y Barri, De Cymru. Mae’r ddwy ochr wedi’u gwneud o dri stribed o satîn cotwm, pinc ar yr ochr ar i fyny a gwyrdd golau ar y cefn wedi’u huno â’i gilydd â phwythau peiriant.
Mae yna wadin cotwm yn y canol. Mae’r cwilt wedi’i gwiltio’n drwchus â llaw mewn edau wen â dyluniad iwtilitaraidd. Mae yna fedaliwn yn y canol o gylchoedd consentrig a chalonnau gyda phedwar border yn eu hamgylchynu. Mae darnau o’r borderi wedi’u colli wrth atgyweirio’r ymylon, sydd wedi’u troi drosodd lle roedd ôl traul. Mae stribedi pinc wedi’u gosod fel appliqué ar y ddwy ochr i gryfhau’r cwilt. 1755mm x 1710mm.
Brethyn Cyfan Aur
Ref: 2017-1-M
Cwilt Cymreig sydd wedi’i gwiltio’n gain ond sydd wedi treulio’n ddrwg yw hwn o’r 1930au. Cwilt brethyn cyfan yw hwn gyda’r ochr ar i fyny yn dri stribed o satîn cotwm aur, a’r cefn yn dri stribed o satîn melyn golau a wadin cotwm rhyngddyn nhw. Pwythwyd y stribedi ar yr ochr ar i fyny a’r cefn â pheiriant.
Mae’r cwiltio â llaw yn hyfryd iawn mewn edau wen gyda rhai motiffau Cymreig nodweddiadol. Mae yna fedaliwn yn y canol gyda blodyn pedwar petal a phedair calon gyda chwarter cylchoedd yn y gornel yn cynnwys blodau wyth petal. Mae yna forder crwn â dyluniad cebl o amgylch hwn ac yna sawl border arall. Mae’r ochrau wedi treulio’n arw ac wedi rhaflo. 2145mm x 1900mm.
Cwilt Brethyn Cyfan Lemwn
Ref: 2017-5-A
Mae’n bur debyg y gwnaed y cwilt brethyn cyfan hwn sydd wedi’i gwiltio’n gain â llaw, o Ogledd Lloegr, un o bâr a brynwyd yn Durham, yn ystod cyfnod prosiect y Swyddfa Diwydiannau Gwledig i adfer y crefftau a oedd ar drai. Ymddengys bod y ddau gwilt wedi’u torri’n llai ac wedi’u defnyddio o dan fatresi.
Mae’r cwilt yn un naill ochr ac wedi’i wneud o satîn cotwm lliw lemwn, a’r ddwy ochr wedi’u llunio o dri stribed o ffabrig wedi’u pwytho at ei gilydd â pheiriant. Cafodd ei gwiltio’n gain mewn edau wen ac mae ganddo fedaliwn yn y canol gyda dyluniad o batrymau gwydrau gwin, plu a ffaniau o’i amgylch. 1965mm x 1965mm.
Cwilt Brethyn Cyfan Gwyn
Ref: 2017-5-B
Mae’n bur debyg y gwnaed y cwilt brethyn cyfan hwn sydd wedi’i gwiltio’n gain â llaw, o Ogledd Lloegr, un o bâr a brynwyd yn Durham, yn ystod cyfnod prosiect y Swyddfa Diwydiannau Gwledig i adfer y crefftau a oedd ar drai. Ymddengys bod y ddau gwilt wedi’u torri’n llai ac wedi’u defnyddio o dan fatresi.
Mae ochr ar i fyny’r cwilt wedi’i lunio o dri darn o satîn cotwm gwyn wedi’u pwytho â’i gilydd â pheiriant. Lluniwyd y cefn o un stribed ar ddeg o satîn cotwm gwyn, chwe stribed cul (170mm) a phum stribed lletach (230mm) wedi’u pwytho â’i gilydd â pheiriant. Mae’r cwiltio cain â llaw yn dilyn y stribedi hyn. Mae dyluniad y cwiltio’n defnyddio amrywiaeth o geblau – wedi’u plethu a’u cordeddu, rhai â blodau a dail. Mae’r stribed sydd yn y canol yn cynnwys croeslinellu â blodau. 2070mm x 1985mm.
Croglun Brethyn Cyfan Hufen
Ref: 2017-10
Gwnaed y cwilt hwn tua diwedd yr 20fed Ganrif, a theulu’r wneuthurwraig wnaeth rhodd ohono ar ôl iddi farw. Cotwm lliw hufen yw’r cwilt sgwâr hwn gyda wadin cotwm neu gymysgedd cotwm o bosibl. Cwiltiwyd yr haenau â’i gilydd â llaw gan ddefnyddio edau gotwm hufen ond mae’n amlwg pa ochr y bwriadwyd i fod ar i fyny oherwydd bod clymau ar ben yr edau lle mae’r cwiltiwr wedi dechrau gwnïo i’w gweld yn glir ar y cefn.
Mae yna fedaliwn crwn yn y canol â dyluniad o flodyn yn y canol a dail o’i amgylch. Mae yna ddail yng nghorneli’r cwilt ac mae gweddill y cwilt wedi’i lenwi â chroeslinellu a border ar hyd yr ymyl bob ochr mewn patrwm gellygen Cymreig. Mae’r ffabrig ar y cefn wedi’i droi i’r tu blaen i greu border dwfn gyda chorneli wedi’u meitro. 1060mm x 1060mm.
Brethyn Cyfan Coch a Gwyn
Ref: 2019-4
Mae gan y cwilt brethyn cyfan hwn ochr ar i fyny sydd wedi’i gwneud o gotwm coch a chefn mewn twil cotwm hufen. Mae yna haen ychwanegol o ffabrig patrymog coch rhwng yr ochr ar i fyny a’r wadin gwlân. Mae diemwnt wedi’i gwiltio â llaw â chylchoedd o’i fewn yn ffurfio medaliwn yn y canol. O’i amgylch ceir pedwar cebl â hanner cylchoedd sy’n cyd-gloi wedi’u llenwi â chroeslinellu. 1918mm x 1725mm.
Brethyn cyfan oren a melyn
Ref: 2019-07
Gwnaed y cwilt hyfryd, llachar hwn yn y 1930au o ffabrig reion, sgleiniog mewn oren ar un ochr a melyn ar y llall. Mae yna wadin llawn, sbringar iawn rhwng yr haenau allanol. Mae’r cwiltio â llaw, sydd wedi’i wneud ag edau fain iawn, yn edrych yn broffesiynol iawn ac mae’n bosibl iddo gael ei wneud dan fenter y Swyddfa Diwydiannau Gwledig. Yn y canol mae diemwnt gyda phatrymau nodweddiadol Gymreig, gwych o ddail, troellau a chortyn torchog o’i amgylch. Mae mewn cyflwr ardderchog. 1900mm x 1720mm.
Brethyn Cyfan Gwyrddloyw
Ref: 2021-2
Gwnaed y brethyn cyfan wedi’i gwiltio â llaw hwn gan nain y rhoddwr yn y 1930au ac mae ei ochr ar i fyny wedi’i wneud o reion gwyrdd olewydd a’r cefn o ffabrig brethyn Jacquard gwyrddloyw. Mae’n bosibl bod yna gwilt arall y tu mewn sy’n ffurfio’r wadin. Mae gan ddyluniad y cwiltio fedaliwn canolog o seren ag wyth pig mewn cylch, sydd ei hun o fewn sgwâr. Mae yna batrwm o droellau, croeslinellu, ffenestr eglwys a chroes ym mhob cornel, i gyd wedi’u pwytho â llaw mewn edau gwyrdd tywyll. 2100mm x 2050mm.