Cwilt Rhacs Printiau Meddal
Ref: 2000-3-B
Cwilt clytwaith naw clwt mewn ffabrigau golau yw hwn, gan gynnwys cotymau, cretón, ffabrigau crysau a gwisgoedd. Mae yna batrymau streipiog, sgwarog a blodeuog. Mae’r ffabrigau, gan gynnwys un sy’n darlunio plant yn sglefrio, yn dyddio o’r 1940au i’r 1960au. Pwythwyd rhai o’r blociau â llaw ac eraill â pheiriant. Mae wedi’i gwiltio mewn llinellau lletraws ag edau gotwm wen. Calico gwead agored ysgafn hufen yw’r cefn a chotwm yw’r wadin. Mae gan y cwilt rwymiad porffor golau gyda phrint blodeuog. 1780 x 1415mm.
Cwrlid Pyffiau Suffolk
Ref: 2002-8
Menyw o’r ardal leol wnaeth rodd o’r cwrlid hwn sydd wedi’i wneud o amrywiol ffabrigau gan gynnwys crimplene, cotymau, neilon a ffabrigau artiffisial eraill felly cafodd ei wneud yn bendant ar ôl lansio Crimplene ym 1959. Gwnaed cylchoedd â llaw o’r ffabrigau hyn i greu Pyffiau Suffolk sydd wedi’u pwytho â llaw ar gynfas wen wedi’u trefnu mewn blociau o liwiau. Mae’r lliwiau glas, pinc, piws ac oren yn llachar ac mae rhai ffabrigau yn blaen ond mae’r rhan fwyaf yn batrymog – blodeuog yn bennaf. Mae yna forder o Byffiau Suffolk mewn glas a gwyrdd o gwmpas yr ymyl i gyd. 1350 x 2102mm.
Cwrlid Laura Ashley
Ref: 2002-9
Gwnaed hwn yn y 1970au gan fenyw o Lanidloes a gwnaeth ei gŵr rodd ohono wedi iddi farw. Roedd y fenyw wedi gweithio i Laura Ashley, fel llawer o bobl o’r ardal. Clytwaith o drionglau wedi’u pwytho â pheiriant, i gyd wedi’u gwneud o ffabrigau cotwm mewn pinc a glas wedi’u dylunio gan Laura Ashley, yw’r ochr ar i fyny. Leinin llenni yw’r cefn yn bennaf, gyda stripiau o glytwaith mewn ffabrigau Laura Ashley. Nid yw’r ochr ar i fyny a’r cefn wedi’u cwiltio â’i gilydd, dim ond wedi’u rhwymo â melfaréd main marŵn. 1025 x 1110mm.
Cwilt Abertridwr 3
Ref: 2002-18-C
Un yw hwn o gasgliad o nifer o gwiltiau a wnaed rhwng tua 1900 a’r 1920au gan yr un fenyw a oedd wedi dechrau gwnïo yn ifanc iawn. Yn ddeg oed, cafodd ei hanfon oddi cartref i weithio fel morwyn laeth ond parhaodd i wnïo ar ei dyddiau prin i ffwrdd – byddai ei llysfam yn dweud wrthi, ”Unrhyw bwyth wnei di nawr, ni fydd rhaid ei weithio eto.” Daeth i oed, priododd ac aeth i fyw yn Aberdâr gyda’i gŵr, a oedd yn löwr, cyn symud i Abertridwr gyda’i theulu a oedd yn cynyddu. Yn y fan honno y gwnaeth hi’r cwiltiau rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw nawr. Gwnaed pob un o ffabrigau oedd wedi’u hailgylchu a’r rheini o lyfrau patrwm yr oedd y siop ddeunyddiau yn Abertridwr yn eu cadw. Wrth i’w merched dyfu, dysgodd hi grefft clytwaith iddyn nhw. Cofia un ohonyn nhw gael ei dysgu’n blentyn i wnïo’r clytiau at ei gilydd ac yna, pan roedd yr ochrau ar i fyny wedi’u gorffen, deuai’r ffrâm gwiltio o’r tu ôl i’r soffa rhawn er mwyn dechrau’r broses gwiltio. Mae’r cwiltiau hyn yn “llyfrau patrymau” yn eu hunain a gellir dysgu llawer am fywyd y Cymoedd yn ystod chwarter cyntaf y ganrif wrth eu hastudio.
Yn anffodus, mae’r cwilt wedi treulio’n ddrwg a’r lliwiau wedi pylu ac mae nifer o rwygiadau ac ambell hollt o gwmpas y clytiau. Mae un ochr wedi’i gwneud o gotwm plaen gwyrdd wedi’i wehyddu gydag ychydig o glytiau o ffabrigau eraill ar y top a’r gwaelod. Mae gan yr ochr arall glytiau mawr sydd ar ben y prif ffabrig, sef cotwm gwyrdd golau. Gwnaed y cwiltio â llaw gydag edau ledwen mewn pwythau mawr anwastad. 1974 x 2235mm.
Cwilt Diemwnt mewn Sgwâr 2
Ref: 2002-18-G
Un yw hwn o gasgliad o nifer o gwiltiau a wnaed rhwng tua 1900 a’r 1920au gan yr un fenyw a oedd wedi dechrau gwnïo yn ifanc iawn. Yn ddeg oed, cafodd ei hanfon oddi cartref i weithio fel morwyn laeth ond parhaodd i wnïo ar ei dyddiau prin i ffwrdd – byddai ei llysfam yn dweud wrthi, ”Unrhyw bwyth wnei di nawr, ni fydd rhaid ei weithio eto.” Daeth i oed, priododd ac aeth i fyw yn Aberdâr gyda’i gŵr, a oedd yn löwr, cyn symud i Abertridwr gyda’i theulu a oedd yn cynyddu.
Yn y fan honno y gwnaeth hi’r cwiltiau rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw nawr. Gwnaed pob un o ffabrigau oedd wedi’u hailgylchu a’r rheini o lyfrau patrwm yr oedd y siop ddeunyddiau yn Abertridwr yn eu cadw. Wrth i’w merched dyfu, dysgodd hi grefft clytwaith iddyn nhw. Cofia un ohonyn nhw gael ei dysgu’n blentyn i wnïo’r clytiau at ei gilydd ac yna, pan roedd yr ochrau ar i fyny wedi’u gorffen, deuai’r ffrâm gwiltio o’r tu ôl i’r soffa rhawn er mwyn dechrau’r broses gwiltio. Mae’r cwiltiau hyn yn “llyfrau patrymau” yn eu hunain a gellir dysgu llawer am fywyd y Cymoedd yn ystod chwarter cyntaf y ganrif wrth eu hastudio.
Gwnaed y cwilt hwn o fwslin cotwm gwisgoedd (rhai yn bur denau), ffabrig crysau a ffabrig o lyfr samplau. Clytwaith yw’r ochr ar i fyny. Mae yna fedaliwn sgwâr yn y canol gyda phum diemwnt wedi’u pwytho y tu mewn iddo mewn siâp croes a thrionglau i lenwi’r sgwâr. Mae rhesi o ddarnau wal frics o amrywiol feintiau o amgylch y medaliwn a glas, pinc a gwyn yw’r lliwiau a ddefnyddiwyd yn bennaf. Mae yna wadin blanced gwlân ac mae’r cefn wedi’i wneud o stripiau o ffabrig pinc golau a gwyrdd, tenau iawn. Mae wedi’i gwiltio â llaw mewn edau wen gan ddefnyddio patrwm diemwnt dros y cyfan. 2020 x 1950mm.
Cwilt Cotwm Glas a Gwyn
Ref: 2002-24
Gwnaed y cwilt hwn o grysau cotwm yn dyddio o’r 1850au a’r 1860au – glas plaen a gwyn streipiog ac ychydig o brintiau coch, brown a melyn sydd wedi pylu. Mae’r rhain i gyd yn ffabrigau cain felly mae’n debyg mai teulu cyfforddus ei fyd oedd yn berchen arno. Mae’r clytwaith ar yr ochr ar i fyny wedi’i bwytho â llaw ac mae gan y dyluniad fedaliwn yn y canol wedi’i ffurfio o 16 seren, gyda saith border yn cynnwys trionglau a diemwntau o’i amgylch. Mae’n bosibl bod yr ochr ar i fyny wedi’i gwneud yn gynharach ac yna wedi’i gwneud yn gwilt yn ddiweddarach, gan fod yr ymyl wedi’i phwytho â pheiriant. Cotwm crai main yw’r wadin gydag ychydig o hadau’n dangos. Gwead twil mewn patrwm sgwarog coch yw’r cefn, wedi’i wneud o dri lled o’r ffabrig. Patrwm sieffrynau dros y cyfan yw dyluniad y cwiltio. 2208 x 1807mm.
Cwilt yr Unfed Plentyn ar Ddeg
Ref: 2002-28
Cwilt cyfoes gan Bobby Britnell yw hwn, a gafodd ei ysbrydoli gan Gwilt y Gŵr Bonheddig, sef rhif 2002-11 yn ein casgliad. Gwnaed ef yn arbennig ar gyfer Sioe Haf y Gymdeithas Gwiltiau yn 2002, Reflections. Mae wedi’i wneud o ffabrig cotwm gwyn a ffabrig cotwm glas a phinc wedi’i lifo â llaw gyda wadin cotwm a chefn o gotwm gwyn. Mae’n gymysgedd o glytwaith ac appliqué, fel y cwilt a’i ysbrydolodd, ac wedi’i bwytho’n drwm â pheiriant, gan ddefnyddio edau i gyd-fynd â lliw y ffabrig.
1932 x 378mm.
Clytwaith Dwy Haen
Ref: 2006-9
Adeiladwaith bag clytwaith dwy haen yw hwn – efallai math cynnar o orchudd cwrlid plu. Gwnaed y clytwaith ar yr ochr ar i fyny o hirsgwarau a sgwariau amrywiol eu maint o satîn cotwm o ansawdd amrywiol – ffabrigau crysau mae’n debyg. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain wedi’u gwehyddu mewn streipiau glas neu goch a gwyn er bod rhai mewn print. Gwnaed y cefn o stripiau o ffabrig 50mm o led wedi’u pwytho â’i gilydd. Mae’r ddwy haen wedi’u pwytho at ei gilydd o gwmpas yr ymylon â pheiriant. 2250 x 1550mm
Clytwaith Octagonau
Ref: 2007-8
Cwilt clytwaith mawr yw hwn wedi’i wneud o octagonau a sgwariau mewn cotymau amrywiol – rhai print yn bennaf. Cafodd ei wneud rhwng 1870 a 1890. Dwy flanced wlân yw’r wadin, un wedi’i gwehyddu’n llac a’r llall yn fwy cain. Cotwm twil gwyn yw’r cefn. Mae wedi’i gwiltio’n hynod gain â llaw mewn edau wen gyda dyluniad o fedaliwn yn y canol a sieffrynau a cheblau o gwmpas yr ymyl. 2225 x 2395mm.
Gorchudd Clytwaith Anorffenedig
Ref: 2009-1-C
Mae’r gorchudd clytwaith anorffenedig hwn o ddiddordeb yn bennaf oherwydd ei fod yn defnyddio o amrywiol ffabrigau plaen a phatrymog yn dyddio o ddiwedd y 19eg Ganrif. 2220 x 1940mm.
Cwilt Cyfoes Wedi’i Wau
Ref: 2009-8
Gwnaed y cwilt hwn sydd wedi’i wau yng Ngwanwyn 2009 gan Grŵp Gwau a Chrosio Llanidloes, a gwnaed rhodd ohoni i’r Gymdeithas Gwiltiau ar ôl arddangosfa haf y flwyddyn honno lle roedd i’w weld ochr yn ochr â chwilt hynafol wedi’u wau o Raeadr Gwy sydd yn ein casgliad. Cyfrannodd pob aelod o’r grŵp at y cwilt, ar y thema gerddi. Wedi’i wneud o edafedd gwlân a synthetig, mae’r amrywiol glytiau wedi’u gwnïo ar flanced wlân.
Gorchudd Clytwaith
Ref: 2009-9
Mae’r gorchudd hwn sydd heb ei orffen yn defnyddio ffabrigau o ddiwedd y 19eg Ganrif, gan gynnwys deunydd gwisgoedd a chrysau cotwm mewn patrymau blodeuog, streipiau a ffabrig gwahanol yr olwg. Mae yna hefyd rywfaint o ffabrig dodrefnu wedi’i ddefnyddio yn ogystal â ffabrig Jiwbilî Brenhines Fictoria 1837-1887 sy’n cynnwys y dyddiadau hyn a phen y frenhines. Mae wedi’i wnïo â llaw mewn sgwariau clytwaith ac mae iddo dri border yn unig – top, gwaelod ac un ochr. Cafodd ei achub gan gyn-Ymddiriedolwr y Gymdeithas Gwiltiau a ddaeth o hyd iddo ar fwrdd bargeinion. Roedd wedi’i bwytho i ffabrig gwlân bwcle ac roedd hwn wedi cael ei olchi ac, o ganlyniad, roedd wedi crebachu. Aeth ag ef adref, tynnu’r cefn a gwneud rhodd ohono i ni yn 2009. 2035 x 1402mm.
Blociau plith draphlith anorffenedig
Ref: 2010-2-A
Clytwaith anorffenedig yw hwn yn cynnwys hecsagonau a blociau plith draphlith mewn amrywiaeth o ffabrigau lliwgar llachar. Rhoddwyd y darn i fam y rhoddwr o gwmpas 2005 gan fenyw o Abermaw a oedd wedi’i etifeddu oddi wrth ei modryb. Mae’n dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif – rhywbryd ar ôl 1869. Mae yna amrywiaeth o ddyddiadau wedi’u cynnwys yn y papurau niferus yn y cefn, gan gynnwys 1855, 1858 a marc post yn dangos Porthmadog, Gorffennaf ’69.
Mae’r papurau’n gymysgedd o bapurau newydd a llawysgrifen, yn y Gymraeg a’r Saesneg. Wedi’i wneud o sidanau, gwlân manweaidd, cotymau a melfedau, pwythwyd y prif ddarn at ei gilydd yn yr arddull Seisnig â phapurau a phwythau taclus, rhai mewn edau wen, eraill mewn edau sy’n cydweddu. Mae’r brasbwythau a’r papurau dal yno. Mae yna fotiff seren â chwe phig yn y canol gyda hecsagon sidan glas wedi’u rhoi at ei gilydd gyda delwedd o dorch. Mae yna hefyd dri darn llai heb fod ynghlwm. Prif ddarn: 1105 x 1156mm.
Gorchudd Clytwaith Anorffenedig
Ref: 2011-2-B
Mae ochr ar i fyny y cwilt clytwaith hwn, sydd heb ei orffen, wedi’i wneud o amrywiol ffabrigau, gan gynnwys cotymau patrymog (smotiau, streipiau, blodau a chylchoedd) a ffabrigau crysau. Mae yna fedaliwn clytwaith sylfaenol yn y canol wedi’i wneud o sgwariau a hirsgwarau o wahanol feintiau gyda borderi o’i amgylch, i gyd wedi’u pwytho at ei gilydd â llaw. Mae’n rhaid ei fod wedi’i ddefnyddio fel gorchudd rhag llwch ar ryw adeg – mae yna farciau paent i’w gweld. Pwythodd y rhoddwr ef at hen gynfas i’w sefydlogi cyn gwneud rhodd ohono i ni yn 2011. 2072 x 2030mm.
Cwrlid Clytwaith
Ref: 2011-2-C
Mae’r cwrlid hwn wedi’i wneud o ffabrigau cotwm, llawer ohonyn nhw’n biws ond rhai mewn coch a llawer ohonyn nhw’n flodeuog. Mae’r rhain yn dod bob yn ail â ffabrigau gwyn a lliwiau goleuach, rhai ohonyn nhw’n batrymog. Mae’n glytwaith yn yr arddull wal frics ac mae’r clytiau wedi’u troswnïo mewn edau wen. Bagiau siwgr neu flawd yw cefn y cwrlid gydag ychydig o bwytho sylfaenol â pheiriant i gadw’r ddwy ochr gyda’i gilydd.
1800 x 2165mm.
Cwilt Clytwaith Coch a Gwyn
Ref: 2011-3-A
Prynodd y rhoddwr y cwilt hwn o siop Oxfam yn Aberystwyth. Mae gan y clytwaith ar yr ochr ar i fyny fedaliwn yn y canol a borderi, gyda sgwariau coch yn y pedwerydd border. Mae ganddo wadin gwlân a darn o ffabrig twil cotwm gwyn yw’r cefn. Mae’r cwiltio wedi’i wneud â llaw mewn edau wen gan ddefnyddio’r patrwm diemwnt. 1940 x 1650mm.
Clytwaith Ffatri Laura Ashley
Ref: 2012-4
Menyw o Lanidloes, a gyflogwyd yn ffatri Laura Ashley yng Ngharno, wnaeth rodd o’r cwilt clytwaith hwn. Roedd y rheolwyr wedi gofyn i weithwyr ddod â chwiltiau teuluol i mewn i’w defnyddio fel ffynonellau dyluniadau. Pan adawodd y fenyw ei swydd, rhoddwyd y cwilt hwn ‘yn ôl’ iddi ond nid hwn oedd yr un roedd hi wedi’i roi. Mae wedi’i wneud o ffabrigau wedi’u hailgylchu mewn cotwm a lliain, rhai a fwriadwyd ar gyfer dillad a rhai ar gyfer pethau i’r cartref. Mae yna batrymau streipiog, smotiog, blodeuog a gingham. Mae’r rhan fwyaf o’r ffabrigau’n dyddio o’r 1930au, mae rhai yn gynharach ac eraill o’r 1970au. Mae’n gwilt clytwaith medaliwn naill ochr sydd wedi’i bwytho at ei gilydd â pheiriant. Mae clytiau eraill wedi’u hychwanegu o ffabrigau diweddarach wedi’u gwnïo â llaw. Nid oes unrhyw wadin rhwng yr ochr ar i fyny a’r cefn. Mae wedi’i ddefnyddio fel gorchudd rhag llwch – gellir gweld staeniau o baent. 2090 x 1750mm.
Cwilt Clytwaith Naill Ochr Cymreig
Ref: 2013-5
Cafodd y cwilt hwn ei ddarganfod mewn tŷ allan ar eiddo rhwng y Bontnewydd-ar-Wy a Llandrindod ym 1981, ynghyd â chwilt arall yr oedd y rhoddwr wedi’i droi yn gyrten. Cafodd yr un yma ei ddefnyddio am lawer o flynyddoedd cyn y gwnaed rhodd ohono i ni. Cafodd ei wneud ar ddechrau’r 1900au o gotwm, deunydd crysau a blanced denau, ffabrig dodrefnu ac ychydig o ddeunydd blodeuog wedi’i arddullio yn arddull Art Nouveau. Mae’n gwilt naill ochr – un ochr mewn pinc, coch a gwyn ac mae’n glytwaith â medaliwn yn y canol a llawer o forderi. Mae yna stribyn glas wedi’i ychwanegu ar hyd yr ymyl uchaf. Mae’r cefn yn las a gwyn yn bennaf gyda chyffyrddiadau o felyn a phiws golau ac mae yna fedaliwn yn yr arddull wal frics yn y canol gyda border a chorneli wal frics. Mae’r wadin cotwm yn dangos arwydd o hadau. Mae’r cwilt wedi’i gwiltio â llaw gan ddefnyddio edau wen mewn dyluniad sieffrynau. 2180 x 2030mm.
Clytwaith Amryliw
Ref: 2017-1-A
Cwilt clytwaith sylfaenol yw hwn wedi’i wneud o ffabrigau cotwm, yn ardal Tyddewi, Sir Benfro ddiwedd y 19eg ganrif. Mae’r ffabrigau’n gotwm a phob un yn brintiau mân a oedd yn boblogaidd ar y pryd – mae’n debyg iddyn nhw ddod o lyfrau â samplau o ffabrigau crysau a gwisgoedd. Mae gan yr ochr ar i fyny ddyluniad o glytwaith wal frics ac mae cyfuniad o gwiltio â llaw ac â pheiriant wedi’i ddefnyddio. Defnyddiwyd rhai stribedi hir cul o frethyn ar hyd dwy ymyl i sgwario’r cwilt. Lliain twil gwyn yw’r cefn a haen denau o wlân wedi’i gribo yw’r wadin. Cwiltiwyd yr haenau â’i gilydd â llaw mewn patrwm o groeslinellu ag edau gotwm wen.
1970 x 1760mm.
Cwilt Plât Dresden o Ganada - Melyn
Ref: 2017-3-A
Mae hwn yn un o ddau gwilt a oedd yn berchen i un o drigolion Llanidloes a wnaeth gais i’r cwilt ddod aton ni ar ôl iddi farw. Hen nain y perchennog oedd wedi gwneud y cwilt yn ystod y 1920au neu’r 1930au yn ei chartref yng Nghanada, gan ei bod wedi ymfudo yno o Gymru. Yn ôl y perchennog, roedd hi’n gallu ei chofio hi’n gweithio arnyn nhw pan fyddai’n ymweld â hi yn blentyn. Roedd y wneuthurwraig yn byw ar ynys fach dim ond un erw mewn maint ac roedd y teulu cyfan yn arfer dod at ei gilydd yn ystod gwyliau’r ysgol i wersylla, chwarae gemau a chwarae cerddoriaeth.
Roedden nhw hefyd yn arfer cynnal cwrdd gwnïo. Mae hwn yn cynnwys pymtheg bloc mewn dyluniad Plât Dresden o ffabrigau cotwm blodeuog wedi’u pwytho â’i gilydd â pheiriant, wedi’u gosod fel appliqué ar sgwâr cefndirol gwyn ac wedi’u hamlinellu â llaw mewn edau ddu gan ddefnyddio pwyth cadwyn. Mae’r blociau wedi’u huno â’i gilydd â sashis melyn o gwmpas pob bloc. Ar y cefn mae yna ddarnau o liain cotwm gwyn wedi’u pwytho at ei gilydd, wadin o gotwm crai ac mae’r haenau wedi’u cwiltio at ei gilydd mewn dyluniad croeslinellu ar y blociau gwyn a dyluniad cadwyn yn cordeddu ar y sashis a’r border. 1550mm x 2555mm.
Cwilt Plât Dresden o Ganada - Gwyrdd
Ref: 2017-3-B
Mae hwn yn un o ddau gwilt a oedd yn berchen i un o drigolion Llanidloes a wnaeth gais i’r cwilt ddod aton ni ar ôl iddi farw. Hen nain y perchennog oedd wedi gwneud y cwilt yn ystod y 1920au neu’r 1930au yn ei chartref yng Nghanada, gan ei bod wedi ymfudo yno o Gymru. Yn ôl y perchennog, roedd hi’n gallu ei chofio hi’n gweithio arnyn nhw pan fyddai’n ymweld â hi yn blentyn. Roedd y wneuthurwraig yn byw ar ynys fach dim ond un erw mewn maint ac roedd y teulu cyfan yn arfer dod at ei gilydd yn ystod gwyliau’r ysgol i wersylla, chwarae gemau a chwarae cerddoriaeth.
Roedden nhw hefyd yn arfer cynnal cwrdd gwnïo. Gwnaed y cwilt hwn mewn maint llai na’r cwilt sy’n gymar iddo, felly ychwanegodd mam y perchennog forder ychwanegol ato fel bod y ddau bron yr un faint. Mae’r cwilt hwn yn cynnwys pymtheg bloc mewn dyluniad Plât Dresden o ffabrigau cotwm blodeuog wedi’u pwytho â’i gilydd â pheiriant, wedi’u gosod fel appliqué ar sgwâr cefndirol gwyn ac wedi’u hamlinellu â llaw mewn edau ddu gan ddefnyddio pwyth cadwyn. Mae’r blociau wedi’u huno â’i gilydd â sashis gwyrdd o gwmpas pob bloc. Ar y cefn mae yna ddarnau o liain cotwm gwyn wedi’u pwytho at ei gilydd, wadin o gotwm crai ac mae’r haenau wedi’u cwiltio at ei gilydd mewn dyluniad croeslinellu ar y blociau gwyn a dyluniad hanner cadwyn yn cordeddu ar y sashis a’r border. Mae un cornel o’r cwilt hwn wedi’i gnoi yn ddrwg – o bosibl gan gŵn y perchennog gan ei bod hi’n cadw pwdls. 1550mm x 2530mm.
Cwilt Clytwaith Sgwariau Cotwm
Ref: 2017-7
Gwnaed y cwilt clytwaith hwn yn ôl pob tebyg yn yr 1920au gan fenyw o Amwythig. Mewn glas a gwyn a chyffyrddiadau o binc, defnyddiwyd amrywiaeth o ffabrigau i wneud y cwilt gan gynnwys cotwm wedi cael brwsiad, cotwm crychiog a chotwm â gwead a Liberty Lawn. Mae llawer ohonyn nhw’n edrych fel ffabrigau crysau a phyjamas.
Lluniwyd yr ochr ar i fyny o glytiau ffabrig wedi’u gwnïo â llaw mewn sgwariau a hirsgwarau ac nid oes unrhyw batrwm cyffredinol amlwg. Mae yna ambell sgwâr atgyweirio wedi’u pwytho’n daclus iawn dros y top. Gwnaed y cefn o bedwar darn o ffabrig wedi’u pwytho â’i gilydd. Mae’r ochr ar i fyny, y cefn a’r wadin wedi’u cwiltio â’i gilydd â llaw gydag edau gotwm gan ddefnyddio pwythau bychain, taclus i ffurfio llinellau cyfochrog yn mynd o’r top i’r gwaelod a llinellau lletraws yn mynd i un cyfeiriad yn unig. 1700mm x 1920mm.
Cwilt Fferm Glyn
Ref: 2018-1
Gwnaed y cwilt clytwaith hwn yn lleol ger Llanidloes cyn 1919 a gwnaed rhodd ohono gan aelod o’r teulu. Mae’r ochr ar i fyny’n glytwaith o amrywiol ffabrigau – twil cotwm, ffabrigau gwneud dillad a chlustogwaith a melfed – mewn gwyrdd, coch a du. Mae’r canol wedi’i wneud o naw o flociau Sêr Ohio mewn pwythau plu, gyda border o hanner drionglau mewn patrwm igam-ogam a border plaen du o’u hamgylch. Gwnaed y cefn o dri darn o ffabrig persli. Blanced wedi’i gwehyddu â llaw yw’r wadin. Mae’r cwilt wedi’i gwiltio â llaw mewn edau gwyrdd tywyll. Gellir gweld siapiau bwaog ar y border ond mae gweddill y dyluniad yn anodd i’w weld. 2223mm x 2224mm.
Cwrlid Pentref Aberriw
Ref: 2019-1
Gwnaed y cwrlid clytwaith hwn o Aberriw ger y Trallwng mewn lliwiau pastel tua 1920. Mae ochr y cwrlid sydd ar i fyny wedi’i lunio o fedaliwn yn y canol o bedwar triongl a naw border o drionglau hanner sgwâr sy’n mynd yn fwy wrth iddyn nhw nesáu at yr ymyl. Lliain fflaneléd gwyn yw’r cefn. Cwiltiwyd ef mewn llinellau syth gan ddefnyddio edau gotwm wen. Y cwilt oedd yr unig beth ar ôl i’w gymryd fel cofarwydd yn dilyn marwolaeth mewn eiddo ger Aberriw. Daeth y rhoddwr, a oedd yn gymydog, ar draws y cwrlid wedi’i grychu mewn cornel. Aeth ag ef adref, ei olchi a’i gadw cyn gwneud rhodd ohono i ni. 2063mm x 1907mm.
Cwilt Clytwaith Sgwariau
Ref: 2021-1-B
Dyma un o ddau gwilt y gwnaed rhodd ohonyn nhw i ni gan un o drigolion Llanidloes a oedd wedi’u prynu o Farchnad Leeds yn yr 1980au. Gwnaed ef ar ddechrau’r 20fed Ganrif o wlanen wlân, cotwm a fflaneléd. Mae yna dystiolaeth bod rhai o’r clytiau wedi’u torri o grys, lliain sychu llestri a gorchudd gobennydd. Mae’r lliwiau’n cynnwys gwyrdd, pinc, glas a llwyd gwannaidd gyda rhwymiad bias coch wedi’i ychwanegu o amgylch yr ymyl, mae’n debyg rywbryd yn ddiweddarach. Ar yr ochr ar i fyny ceir clytwaith o hirsgwarau a, dros amser, mae’r cwilt wedi’i ehangu gyda chwilt arall ac mae rhai clytiau wedi’u hychwanegu. Mae rhywfaint ohono wedi’i bwytho â llaw ond mae peiriant wedi’i ddefnyddio hefyd. Mae yna hen gynfas gotwm ar y cefn ac mae’r haenau wedi’u pwytho â’i gilydd gan ddefnyddio rhesi o bwythau peiriant. 1930mm x 1700mm.
Gorchudd Diemwnt Seisnig Wedi’i Bwytho Dros Bapur
Ref: 2021– 06
Gwnaed y gorchudd cwilt hwn rhwng 2003 a 2010 ac mae’n ddarn diddorol, dramatig iawn yr olwg. Defnyddiwyd yr arddull draddodiadol Seisnig o bwytho dros bapur (EPP) ac mae’r papurau’n amlwg i’w gweld, felly hefyd y brasbwythau o gwmpas y darnau papur siâp diemwnt. Cotymau print amryliw ydy’r ffabrigau. Oherwydd y dyluniad a’i natur anorffenedig, mae o siâp afreolaidd ac yn 2600mm x 2540mm ar ei fwyaf.
Y Cwilt Shoo Fly
Ref: 2022–1- A
Cwilt o Ganada ydy hwn, a wnaed yn y 1930au neu’r 1940au. Clytwaith o flociau sgwâr yn y dyluniad Shoo Fly ydy’r ochr ar i fyny, ac mae’n gwilt o wead cartref traddodiadol sy’n defnyddio ffabrigau dros ben, o gotwm glas a gwyn, rhai ohonyn nhw’n batrymog. Darn o ffabrig cotwm gwyn o safon is ydy’r cefn a chotwm tenau ydy’r wadin hefyd. Cafodd y cwilt ei gwiltio â llaw mewn streipiau lletraws gan ddefnyddio edau gotwm wen a rhwymwyd yr ymylon mewn glas gyda chorneli crynion. Er bod yna ychydig o staen ar y cwilt (nicotin o bosibl) a’i fod wedi pylu braidd, mae mewn cyflwr da. 1747mm x 2004mm.
Cwrlid Cist Landin – Blwch Glaw
Ref: 2022-6-C
Gwnaed hwn gan y diweddar Dawn Pavitt ym 1966 a gwnaed rhodd ohono gan y wneuthurwraig. Gwnaed y cwilt hwn sy’n hyfryd i edrych arno mewn amrywiaeth o ffabrigau cotwm lliw ar gefndir glas golau, gan ddefnyddio dyluniad clytwaith Seminole, sef arddull clytwaith wedi’i wneud trwy bwytho stripiau o ffabrig lliwgar â’i gilydd mewn bandiau llorweddol. Mae yna wadin tenau a chefn o gotwm hufen plaen. Mae’r cwilt wedi’i gwiltio â llaw mewn patrwm igam-ogam.
814mm x 920mm.