


















































Brethyn Cyfan Letitia
Ref: 2000-2-B


Gwnaed y cwilt hwn yn y 1930au ar gyfer Arglwyddes Aberdâr ym Mlaenau, ger Rhydaman gan Letitia Davies yn ardal Llandeilo. Mae’r cwilt brethyn cyfan pinc a gwyrdd hwn wedi’i gwiltio â llaw yn arddull y medaliwn gydag edau binc, gan ddefnyddio dyluniadau o ffaniau, clybiau a dail. Mae yna glymau i’w gweld ar y cefn
Diden Ddiemwnt Binc
Ref: 2000-4


Diden naill ochr wedi’i chynhyrchu’n fasnachol yw hon, yn dyddio o’r 1930au neu’r 1940au. Wedi’i gwneud o gotwm blodeuog a phinc plaen gyda wadin o gnu, mae gan y ddiden ddiemwnt yn y canol gyda hirsgwar a border o’i amgylch. Mae wedi’i chwiltio mewn edau pinc golau mewn patrwm igam-ogam. 2125 x 1650mm.
Siôl Wlân
Ref: 2000-5

Siôl draddodiadol Gymreig yw hon â rhimyn wedi’i rolio â llaw wedi’i wneud o wlân, mewn patrwm sgwarog wedi’i wehyddu mewn gwead twil. Achubwyd hi o focs wedi’i labelu â ‘blancedi cŵn’ ac fe’i prynwyd hi am 50c o siop elusen yn y Drenewydd. Mae mewn lliwiau cnu naturiol hufen a llwydfelyn. 1202 x 1308mm yn ogystal â rhimyn 130mm.
Cwilt Persli Coch
Ref: 2001-7


Mae’r cwilt brethyn cyfan hwn wedi’i gwiltio â llaw mewn dyluniad persli coch ag edau gotwm goch. Mae yna nifer o droellau i’w gweld. Mae’r cwilt yn un naill ochr ac mae’r ddwy ochr yr un fath. Mae’n bosibl mai blanced neu gwilt arall yw’r wadin – mae’n drwm iawn er nad yw mor fawr â’r cwilt ar y tu allan. 2002 x 1585mm.
Cwilt Brethyn Cyfan Cotwm
Ref: 2001-8-D


Mae’r cwilt hwn yn un o gasgliad o gwiltiau a wnaed gan Lizzie Jane Williams a oedd yn byw ger Llanymddyfri. Pasiwyd nhw i lawr trwy’r theulu i orffen eu hoes yng nghartref ei ŵyr yn Llanidloes, lle roedden nhw’n cael eu storio mewn cist. Mae ochr ar i fyny’r cwilt wedi’i wneud o liain gwead plaen cotwm cain gyda phrint bach coch arno. Cotwm ychydig yn drymach gyda phrint streipen wedi’i thorri mewn coch yw’r cefn. Gwlân wedi’i gribo yw’r wadin a gwnaed y cwiltio â llaw mewn edau gotwm wen. Mae yna fedaliwn yn y canol gyda borderi o ffaniau, troellau ar goesynnau a chroeslinellu. 1760 x 1730mm.
Brethyn Cyfan Marŵn a Mwstard
Ref: 2001-8-G


Mae’r cwilt hwn yn un o gasgliad o gwiltiau a wnaed gan Lizzie Jane Williams a oedd yn byw ger Llanymddyfri. Pasiwyd nhw i lawr trwy’r theulu i orffen eu hoes yng nghartref ei ŵyr yn Llanidloes, lle roedden nhw’n cael eu storio mewn cist. Mae’r cwilt hwn yn debyg iawn i un arall o’r un casgliad ac mae’n gwilt brethyn cyfan naill ochr mewn gwlanen wlân gwead plaen – mwstard ar un ochr a marŵn ar yr ochr arall. Gwlân yw’r wadin ac mae’r haenau wedi’u cwiltio â llaw mewn edau ddu gyda dyluniad o ffaniau a cheblau. 2140 x 1710mm.
Diden Flodeuog
Ref: 2002-19


Yn dyddio o’r 1930au/40au, diden yw hon a gynhyrchwyd yn fasnachol ac a wnaed o gotwm cretón blodeuog. Brethyn cyfan â chefndir llwydfelyn yw’r ochr ar i fyny, gyda phatrwm o flodau glas a choch. Darn o ffabrig cotwm aur yw’r cefn ac mae yna wadin o gnu. Mae’r ddiden wedi’i chwiltio â pheiriant mewn edau wen mewn patrwm igam-ogam drosti. 2165 x 1675mm.
Cwilt Coch Trwchus
Ref: 2002-20


Achubwyd y cwilt hwn gan y rhoddwr o siop Oxfam yn Wrecsam. Cwilt brethyn cyfan yw hwn wedi’i wneud o ledau o ffabrig satîn cotwm sy’n goch ar y naill ochr ac yn aur ar y llall. Mae’r lledau wedi’u pwytho at ei gilydd â pheiriant. Yn wreiddiol, roedd y cwilt wedi’i gwiltio â llaw mewn edau wen, mewn patrwm o droellau gyda dail yn y ddwy gornel. Mae yna bedeirdalen yn y canol gyda chwiltio eco. Ar ryw adeg, mae’r cwiltio wedi’i drwsio â phwythau llaw coch a marŵn. 2084 x 1802mm.
Blanced Melin Pen-y-bont
Ref: 2003-4

Hon oedd y flanced ddwyochrog gyntaf oddi ar y gwŷdd ym Melin Pen-y-Bont, Llanidloes. Daeth y gwneuthurwr i Lanidloes o Hawick i ddechrau cynhyrchu deunydd dwyochrog a’i ŵyr roddodd y flanced i’r sawl a wnaeth rodd ohoni i ni. Mae un ochr mewn arlliwiau o frown a mwstard a’r cefn mewn arlliwiau cochbinc. Mae ganddi batrwm sgwarog ac mae yna rimyn ar ddwy ochr. 1640 x 1390mm.
Cwilt Brethyn Cyfan Pinc a Glas
Ref: 2003-9


Gwnaed y cwilt brethyn cyfan hwn, ar ddyddiad anhysbys, o satîn cotwm mewn pinc ar un ochr a glas ar y cefn. Rhyngddyn nhw mae naill ai lliain fflaneléd neu flanced denau. Mae’r cwilt wedi’i gwiltio â llaw gydag edau pinc tywyll mewn dyluniad o droellau, blodau a dail o amgylch medaliwn yn y canol. 2045 x 2020mm.
Cwilt Brethyn Cyfan
Ref: 2005-1-B


Mae hwn yn un o ddau gwilt y gwnaed rhodd ohonyn nhw gyda’i gilydd. Cafodd ei wneud gan fenyw o Sir Gaerfyrddin yn y 1930au ac aelod o’r teulu wnaeth rodd ohono. Mae’n gwilt brethyn cyfan â’r ochr ar i fyny mewn satîn cotwm pinc golau a chefn o satîn cotwm dyluniad persli pinc. Gwlân yw’r wadin. Mae’r cwiltio â llaw o safon uchel mewn edau gotwm marŵn mewn dyluniad â medaliwn yn y canol gyda borderi, gan gyfuno troellau a siapiau petal. 2045 x 1635mm.
Cwilt Brethyn Cyfan Melyn a Gwyrdd
Ref: 2006-4


Cwilt brethyn cyfan yw hwn a wnaed yn Ystradgynlais rhwng 1860 a 1880. Gwnaed ef gan wraig rheolwr y pwll glo ac ŵyr y wneuthurwraig wnaeth rodd ohono. Mae’r cwilt wedi’i wneud o satîn cotwm, gyda thri lled o ffabrig melyn wedi’u huno’n llorweddol â pheiriant ar yr ochr ar i fyny. Mae yna ddarn o satîn cotwm gwyrdd ar y cefn a chymysgedd o flanced, hen ddillad a gwlân yw’r wadin. Mae wedi’i gwiltio â llaw mewn edau gotwm frown gyda dyluniad medaliwn yn y canol a borderi. Mae yna ddail llawryf, rhosod, troellau a ffaniau. 2120 x 2060mm
Brethyn Cyfan Blodeuog
Ref: 2006-10


Mae yna hen gwilt y tu mewn i’r cwilt hwn, fel wadin. Mae gan y cwilt mewnol un ochr satîn glas/ gwyrdd gyda blodau gwynion wedi’u printio arno, haen o wadin a chefn o satîn gwyn. Mae wedi’i gwiltio â llaw. Satîn cotwm print gyda gwead agored sydd â dyluniad blodeuog coch ar wyn wedi’i brintio arno yw’r ochr ar i fyny newydd a hefyd y cefn. Mae’r cwiltio allanol wedi’i wneud â llaw gydag edau gotwm wen mewn dyluniad o sieffrynau a llinellau cyfochrog. Yn anffodus, mae’r wadin yn y cwilt mewnol i gyd wedi clystyru at ei gilydd o ganlyniad i waith glanhau ffyrnig iawn. 1750 x 1700mm.
Brethyn Cyfan Hufen a Gwyrdd
Ref: 2007-1


Cwilt ffrâm brethyn cyfan yw hwn a wnaed yn y 1930au. Mae’r ochr ar i fyny, a’r cefn, ill dau wedi’u gwneud o dri lled o ffabrig satîn cotwm, gyda hufen ar un ochr a gwyrdd ar y llall. Defnyddiwyd gwlân wedi’i gribo ar gyfer y wadin ac mae’r haenau wedi’u huno â chwiltio cain â llaw mewn edau gotwm hufen. 2065 x 1985mm.
Brethyn Cyfan Glas a Marŵn
Ref: 2008-3


Gwnaed y cwilt brethyn cyfan hwn sydd, yn ôl pob tebyg, yn un Cymreig, tua 1890/1900, o satîn cotwm gwead plaen mewn marŵn ar un ochr a glas ar y cefn. Gwlân eithaf trwchus wedi’i gribo yw’r wadin. Mae’r cwilt wedi’i gwiltio â llaw mewn cotwm coch sydd wedi pylu. Mae yna fedaliwn yn y canol gyda throellau, bwâu, diemwntau a sieffrynau o’i amgylch. I’w warchod, mae rhwydwe glas tywyll wedi’i osod dros y cefn gan ddefnyddio pwyth rhedeg mewn edefyn polyester.
1760 x 1560mm.
Brethyn Cyfan Blodeuog Bach
Ref: 2009-1-G

Mae gan y cwilt hwn ochr ar i fyny mewn cotwm o wehyddiad plaen mewn dyluniad blodeuog pinc a gwyn. Satîn cotwm melyn yw’r cefn. Rhwng y ddau mae yna flanced binc/ piws golau a’r cyfan wedi’i gwiltio at ei gilydd â llaw mewn edau felen gyda medaliwn yn y canol a ffaniau o’i gwmpas mewn dau forder. Mae dipyn o ddefnydd wedi’i wneud o’r cwilt.
1650 x 1425mm
Cwilt Brethyn Cyfan Coch
Ref: 2009-6-B


Gwnaed y cwilt hwn yn Rhaeadr Gwy gan fam chwaer-yng-nghyfraith y rhoddwr. Mae wedi’i wneud o ffabrigau dodrefnu sy’n gymysgedd o gotwm/reion. Mae yna ddau ddarn o ffabrig, gyda phatrwm blodeuog wedi’i wehyddu, wedi’u gwnïo â llaw at ei gilydd gyda sêm yn y canol ar y ddwy ochr. Lliw ceirios yw’r ochr ar i fyny a gwyrdd yw’r cefn, a rhwng y rhain mae yna wadin gwlân llwyd. Mae’r cwilt wedi’i gwiltio â llaw gydag edau werdd lliw dail ac mae yna fedaliwn yn y canol gyda phatrwm o droellau, dail a chadwyn o ddiemwntau. Mae yna ddau forder o amgylch hwn. 2380 x 2150mm
Cwilt Brethyn Cyfan Melynddu
Ref: 2009-7-A


Cwilt brethyn cyfan Cymreig yw hwn mewn satîn cotwm melynddu (er mae’n bosibl mai gwyn ydoedd yn wreiddiol) a ddaeth o dŷ yng Nghaerfyrddin, ac aelod o’r teulu wnaeth rodd ohono. Mae ganddo wadin o wlân wedi’i gribo a chefn o ffabrig cotwm gyda dyluniad blodeuog mewn pinc. Mae wedi’i gwiltio’n brydferth ac yn drwm â llaw mewn edau wen, gan ddefnyddio symbolau nodweddiadol Gymreig. Mae yna fedaliwn yn y canol gyda dail a cheblau. Mae yna ffaniau yn y corneli gyda cheblau, dail a rhosynnau o gwmpas. Mae yna forder o ddelltwaith wedi’i lenwi â throellau a border allanol gyda dail, tiwlipau, troellau ac, yn y corneli, sêr ag wyth pig. 2070 x 1906mm.
Diden Flodeuog Binc
Ref: 2009-7-B


Gwnaed y ddiden hon, a gynhyrchwyd yn fasnachol yn y 1930au neu’r 1940au, o gotymau blodeuog a phinc golau ac mae wedi’i chwiltio â pheiriant mewn cotwm gwyn gyda phatrwm igam-ogam drosti. Mae ganddi gefn cotwm pinc golau a wadin lympiog – cnu gwlân mae’n debyg. Mae wedi’i rhwymo â rhwymiad bias cotwm pinc golau. 1680 x 1320mm.
Brethyn Cyfan Gwyrdd a Mwstard
Ref: 2010-3-B

Prynodd y rhoddwr y cwilt hwn ym marchnad wartheg Dolgellau yn gynnar yn y 1990au er iddo gael ei wneud tua 1930. Mae’n gwilt brethyn cyfan naill ochr wedi’i wneud o satîn cotwm mewn gwyrdd ar un ochr a mwstard ar y llall, er bod yr ochr werdd wedi pylu mwy, gan awgrymu mai’r ochr hwn a ffafriwyd fel yr ochr ar i fyny. Defnyddiwyd gwlân wedi’i gribo fel wadin ac mae’r cyfan wedi’i gwiltio’n gain â llaw gan ddefnyddio edau werdd. Mae yna fedaliwn yn y canol, gyda borderi. Mae’r border mewnol wedi’i gwiltio â diemwntau a ffaniau. Mae gan y border allanol batrwm igam-ogam a throellau. 2130 x 1940mm.
Brethyn Cyfan Gwlanen Pinc a Gwyrddlas
Ref: 2010-3-C


Prynodd y rhoddwr y cwilt hwn ym marchnad wartheg Dolgellau ar ddechrau’r 1990au. Cwilt brethyn cyfan ydyw yn bennaf, wedi’i wneud o wlanen twil pinc ar un ochr a gwlanen gwead plaen gwyrddlas ar y llall, er bod gan yr ochr binc (sef yr ochr ar i fyny yn ôl pob tebyg) un gornel o wlanen binc wahanol. Blanced wlanen hufen, denau yw’r wadin, gyda streipen biws denau. Mae’r cwilt wedi’i gwiltio â llaw mewn edau goch. Mae yna fedaliwn yn y canol a borderi gyda throellau, patrymau igam-ogam, delltwaith, croeslinellu a ffaniau yn y corneli. Mae yna glymau ar yr ochr wyrddlas, sydd mewn tair rhan. 1902 x 1902mm.
Brethyn Cyfan Mwstard a Blodeuog
Ref: 2011-3-B


Prynwyd hwn mewn arwerthiant ym Machynlleth cyn 1993, a gwnaed rhodd ohono i ni yn 2011. Cwilt brethyn cyfan naill ochr yw hwn, wedi’i wneud o satîn cotwm mwstard ar un ochr a satîn cotwm blodeuog wedi pylu mewn arlliwiau pinc ar y llall. Gwlân yw’r wadin. Mae’r cwilt wedi’i gwiltio â llaw gyda medaliwn yn y canol a borderi â dyluniad o ffaniau, bwâu, troellau, rhosod a delltwaith. 2170 x 1950mm.
Brethyn Cyfan Cymreig Plentyn
Ref: 2014-1-B


Cwilt brethyn cyfan syml iawn yw hwn wedi’i wneud o ffabrig cyrten damasg pinc tywyll – o bosibl yn y 1930au neu’r 1940au. Mae wedi’i gwiltio yn fras â llaw mewn stripiau ac mae yna gwiltio diemwnt rhwng y stripiau. Mae’r ymylon wedi’u bytio â’i gilydd ac wedi’u gwnïo â llaw ac, yn ein barn ni, blanced wlân yw’r wadin. 1400 x 970mm.
Brethyn Cyfan Gogledd Lloegr
Ref: 2014-1-C


Mae hwn yn frethyn cyfan sy’n nodweddiadol o arddull Durham, wedi’i wneud o bosibl o ganlyniad i ddosbarth y Swyddfa Diwydiannau Gwledig. Wedi’i wneud o satîn cotwm, mae’r ochr ar i fyny’n biws sydd wedi pylu a’r cefn yn felyn sydd wedi pylu. Defnyddiwyd gwlân wedi’i gribo fel wadin ac mae’r cwilt wedi’i gwiltio â llaw gan ddefnyddio edau wen. Mae yna flodyn yn y canol, gyda phlu o’i amgylch a swagiau o gwmpas yr ochrau – yn nodweddiadol o gwiltiau brethyn cyfan Gogledd Lloegr. 2330 x 1826mm.
Brethyn Cyfan Blodeuog â Fflowns
Ref: 2014-5


Nain y rhoddwr oedd biau’r cwilt hwn ac roedd hi wedi byw yn Nhreorci gydol ei bywyd. Ganwyd hi ym 1900 ac fe briododd löwr. Cymraeg oedd ei mamiaith. Mae ein rhoddwr yn gallu cofio’i thaid a’i nain yn defnyddio’r cwilt ar ei gwely hi a bod gan ei nain beiriant gwnïo â throedlath.
Wedi’i wneud o ffabrigau cotwm, mae gan y cwilt naill ochr hwn batrwm persli pinc ar un ochr a dyluniad o fasgedi blodau rhwng llinellau tonnog llydan ar y llall. Mae’n bosibl mai cwilt arall sy’n ffurfio’r wadin. Mae’r cwilt wedi’i gwiltio â pheiriant gydag edau gotwm wen mewn arddull croeslinellu sylfaenol. Mae yna linell igam-ogam o gwmpas yr ymyl i ddal y fflowns yn ei le. 2180 x 1850mm.
Cwilt cot brethyn cyfan glas Cymreig
Ref: 2015-1-A


Gwnaed hwn tua 1880 a gwnaed rhodd ohono i ni yn 2015. Yn wreiddiol, cwilt cot wedi’i wneud o sidan glas ydoedd sydd wedi’i droi yn gês pyjamas. Mae’n nodweddiadol Gymreig – wedi’i gwiltio’n hynod gain â llaw mewn edau las ar frethyn cyfan. Mae yna fedaliwn yn y canol â chroeslinellu, ffaniau yn y corneli ac ychydig o droellau a dail. 800 x 540mm.
Brethyn Cyfan Pinc Naill Ochr
Ref: 2015-3


Mae ein rhoddwr yn cofio prynu’r cwilt hwn yng Nghaerfyrddin tua 1990. Cafodd ei wneud yn yr 1920au neu’r 1930au, o satîn cotwm ac mae’n gwilt naill ochr gyda ffabrig pinc golau ar un ochr a glas golau ar yr ochr arall. Mae’n bosibl iddo gael ei wneud yn barod ar gyfer genedigaeth babi fel y byddai’n bosibl dewis yr ochr briodol i’w harddangos. Llenwad o gapoc yw’r wadin ac mae’r cwilt wedi’i bwytho â llaw mewn edau binc. Mae yna fedaliwn yn y canol gyda sgwâr ar ei ochr, â chylchoedd o’i amgylch. Hefyd mae sêr, tiwlipau, troellau a chroeslinellu wedi’u cynnwys yn y dyluniad. Ychwanegwyd fflowns trwy bwytho â pheiriant o gwmpas y pedair ymyl gydag ymyl wedi’i bytio a’i phwytho â pheiriant sydd wedi treulio. 1903 x 1702mm.
Brethyn cyfan cot sidan hufen Cymreig
Ref: 2016-3


Brethyn cyfan yn arddull RIB yw hwn a wnaed, yn ôl pob tebyg, yn y 1930au. Mae ganddo bum twll llygaden i wneud yn siŵr nad yw’r babi yn gorboethi. Cwilt Cymreig wedi’i gwiltio mewn edau gotwm hufen wedi’i wneud o sidan â wadin gwlân. Mae yna ffaniau yn y corneli, siapiau hanner lleuad ar yr ymylon hiraf, a hanner cylchoedd bychain ar yr ymylon byr. Pum llinell o bwythau sy’n ffurfio’r border allanol. 715 x 50mm.
Brethyn Cyfan Glas Brenhinol
Ref: 2016-7


Gwnaed y cwilt brethyn cyfan Cymreig hwn yn y 1930au yn ardal Aberystwyth. Mae’n nodweddiadol Gymreig ac yn ansoffistigedig ond yn hynod hirbarhaus. Mae dwy ochr y cwilt wedi’u gwneud o ddau ddarn o dwil cotwm glas brenhinol wedi’u huno â pheiriant. Mae yna wadin gwlân trwchus. Mae’r cwilt wedi’i gwiltio llyfn iawn â llaw mewn edau wen. Mae yna fedaliwn yn y canol yn darlunio pedair deilen â throellau’n eu gwahanu. Mae dwy res o bwythau o’i amgylch ac yna cylch cebl. Mae yna sawl border â phatrymau o galonnau, sieffrynau, croeslinellu a throellau. Mae gan y border allanol batrwm o ddail llawryf a throellau gyda phum troell ym mhob cornel a seren pedwar pwynt. 1990mm x 1740mm.
Cwilt Brethyn Cyfan Marwn
Ref: 2016-9


Cwilt brethyn cyfan Cymreig yw hwn a wnaed, yn ôl pob tebyg, yn ystod y 1930au dan raglen y Swyddfa Diwydiannau Gwledig (RIB). Mae’n gwilt naill ochr ac mae’r ddwy ochr wedi’u gwneud o dri stribyn o satîn cotwm marŵn (bellach wedi pylu’n frown) sydd wedi’u pwytho gyda’i gilydd â pheiriant. Gyda wadin yn cynnwys naill ai blanced neu gwilt hŷn, mae wedi’i gwiltio’n daclus â llaw mewn edau marŵn. Mae yna fedaliwn pigfain yn y canol â dyluniad o rosod, ceblau a phlu gyda dail yn y corneli. Er bod y rhain i gyd yn fotiffau nodweddiadol Gymreig, maen nhw wedi’u gosod gyda’i gilydd mewn modd anghyffredin ond dymunol iawn. 2015mm x 2245mm.