top of page
canadian crazy quilt.jpg

Clustogau clytwaith ar hap

Ref: 1999-2

1999-2 crazy cushions
1999-2 crazy cushions

Pâr o glustogau gyda chasys wedi’u gwneud o glytwaith ar hap mewn cotymau, sidanau a satinau llachar eu lliwiau, rhai â phatrymau sgwarog, smotiog a streipiog.

Yn oes Victoria, roedd pobl yn hoff iawn o glytwaith ar hap, a oedd fel rheol yn defnyddio darnau afreolaidd o ffabrigau cyfoethog, fel sidanau a felfedau i gynhyrchu darnau moethus i’w defnyddio yn y cartref. Byddai’r darnau o ffabrig, o unrhyw siâp a maint, yn cael eu gwnïo at ffabrig sylfaen cyn eu pwytho’n gymhleth ac weithiau eu haddurno â gleiniau a secwinau. Roedd clytwaith ar hap yn torri pob un o reolau cwiltiau clytwaith mwy traddodiadol, a fyddai’n dibynnu ar gymesuredd ac ailadrodd patrwm i wneud argraff. Nid oedd y gwneuthurwyr ofn arbrofi â lliwiau a oedd yn gwrthdaro neu orchuddio’r ffabrig â symbolau neu ddyluniadau manwl.

Mae pob clwt ar y clustogau hyn yn cynnwys brodwaith pwyth pryf dros y semau mewn edau o wahanol liwiau. Mae’r clustogau wedi’u llenwi â phlu, a cheir ffabrig taffeta moiré pinc ar y cefn, ag effaith donnog neu farc dŵr. Cynhyrchir hyn trwy ddefnyddio rholeri gwrymiog dan bwysau ar dymheredd uchel yn ystod proses gorffen y ffabrig.

Bag pyjamas clytiog

Ref: 1999-3

1999-3 crazy pyjama bag
1999-3 crazy pyjama bag

Mae’r bag pyjamas hwn yn mesur 370 x 285mm, ac mae wedi’i wneud o sidanau ar arddull clytwaith ar hap, gyda phwythau pryf gwyrddlwyd a glas golau’n gorchuddio’r semau.

Mae cordyn streipiog coch, brown, melyn a du wedi’i osod ar ymylon y bag cyfan. Mae’r fflap wedi’i leinio â sidan cotwm streipiog, ac mae corff y cas wedi’i leinio â lliain fflaneléd. Mae’r bag, a wnaed yn oes Fictoria mae’n debyg, pan roedd mynd mawr ar glytwaith ar hap o’r fath, mewn cyflwr rhagorol, heblaw am rai o’r sidanau sydd wedi dirywio.

Clytwaith ar hap o’r 1970au

Ref: 2006-1

2006-1 1970s crazy patchwork quilt
2006-1 1970s crazy patchwork quilt

Cwilt clytwaith ar hap yw hwn a wnaed gan Ellen Hamer o Lynbrochan ger Llanidloes, a daw ei ffabrigau o'r saith degau yn bennaf.

Mae’r clytiau wedi’u gosod ar hap ar hen gwilt. Mae ffabrigau lliwiau llachar a oedd yn boblogaidd yn y 1970au i’w gweld yn helaeth, gan gynnwys crimpolîn, cotwm, melfaréd main a ffabrigau dodrefn. Fodd bynnag, ffabrigau gwisg yw llawer ohonyn nhw. Mae yna batrymau blodeuog, solet a haniaethol.

Ceir pedair croes goch ar y clytwaith ar hap, a chroes las yn y canol gyda phedwar triongl coch. Ceir pedwar sgwâr porffor ger y corneli. Mae’r clytiau wedi’u pwytho â phwythau pluen mewn lliwiau amrywiol, gan ddefnyddio edau brodwaith gotwm geinciog. Mae’r cwilt wedi’i rwymo â darnau o ffabrig dodrefn, ac wedi’i frodio ar y ddwy ochr â phwythau pluen.

Ar y tu ôl, gellir gweld pwythau cwiltio’r cwilt gwreiddiol, sy’n dangos gwyddau hedegog mewn border, trionglau, sgwariau a medaliwn canolog bach â borderi o’i amgylch.

I.O.D.E cwilt

Ref: 2014-3

2014-3 IODE quilt
2014-3 IODE quilt

Yr allwedd i hanes y cwilt hwn yw label bach yn un o gorneli blaen y cwilt, â’r acronym IODE a Canada wedi’i ysgrifennu oddi tano.  Sefydliad yng Nghanada yw ‘The Imperial Order of the Daughters of the Empire’ a fyddai, fel y Groes Goch, yn gwneud ac yn  cludo cwiltiau ar longau i’r DU yn ystod yr Ail Ryfel Byd fel rhan o’i weithgareddau elusennol. Roedd yna fwy na 35,000 o aelodau ledled Canada ar y pryd. Byddai’r cwiltiau lliwgar, o bob dyluniad posibl, yn dod â lliw, llawenydd a chynhesrwydd i’r canolfannau gorffwys yn sgil cyrchoedd bomio.

 

Daeth y cwilt clytwaith ar hap hwn i’r golwg mewn siop elusen yn Llanidloes. Mae wedi’i wneud o ffabrigau cotwm blodeuog lliwgar (yn nodweddiadol o “ffedogau nain”), ac mae wedi’i gwiltio â llaw mewn dyluniad cragen fylchog. Mae’r ffabrig ar y cefn wedi’i wneud o hen sachau porthiant, sef arfer a oedd yn gyffredin yng Nghanada a’r Unol Daleithiau yn ystod y cyfnod hwn.

Mae’r ugain o flociau ar hap yn cynnwys ffabrigau blodeuog a  smotiog lliwgar wedi’u pwytho â’i gilydd â pheiriant i lunio ffabrig sylfaen. Mae rhai o’r blociau wedi’u trwsio’n ddiweddarach, sy’n dangos bod y rheiny a’i dderbyniodd adeg y rhyfel wedi’i ddefnyddio’n helaeth.

Mae’r IODE yn dal i fodoli yng Nghanada heddiw: Gyda mwy na 3,500 o aelodau ledled Canada mewn 200 o siapteri, mae traddodiad IODE o gynorthwyo plant, pobl ifanc a’r rheiny mewn angen yn parhau.

Gorchudd Clytwaith Ar Hap

Ref: 2002-27-A

2002-27-A crazy quilt top
2002-27-A crazy quilt top detail

Mae’r gorchudd clytwaith ar hap hwn a wnaed tua 1930au wedi’i wneud o amrywiaeth o ffabrigau, gan gynnwys melfed, cotwm persli a sidan.  Un o bâr o gwiltiau yw hwn a wnaed gan yr un person ac y gwnaed rhodd ohonyn nhw yn 2002.  Mae’r cwilt yn drawiadol iawn gyda chryn dipyn o weadedd a lliwiau llachar.  Mae’r clytwaith wedi’i blu-bwytho ar y cefn ar ffabrig gwisgoedd streipiog glas a gwyn a chotwm gwead plaen gwyn ac nid yw wedi’i orffen, gyda brasbwythau o gwmpas yr ymyl.  1270 x 1080mm.

Gorchudd Clytwaith Ar Hap

Ref: 2002-27-B

2002-27-B crazy top
2002-27-B crazy top detail

Mae’r gorchudd clytwaith ar hap hwn a wnaed tua 1930au wedi’i wneud o amrywiaeth o ffabrigau, gan gynnwys melfed, cotwm persli a sidan.  Un o bâr o gwiltiau yw hwn a wnaed gan yr un person ac y gwnaed rhodd ohonyn nhw yn 2002.   Mae’r cwilt hwn wedi’i wneud o ffabrigau tywyllach na’i gymar ac mae wedi’i wneud o ffabrigau cotwm plaen a phrint, gwlân a chrêp, gan gynnwys tartan coch.  Pwythau plu dwbl ag edau gotwm sglein mewn coch, pinc a melyn sy’n uno’r darnau ar yr ochr ar i fyny â’i gilydd. Ar y cefn, ffabrig gwead twil cotwm yw hanner ohono ac mae’r hanner arall wedi’i ffurfio o stribedi o ffabrigau dodrefnu.   1520 x 1470mm.

Cwilt Clytwaith Ar Hap gyda Border

Ref: 2003-12

2003-12 crazy patchwork with border
2003-12 crazy patchwork with border detail

Roedd y cwilt hwn yn cael ei ddefnyddio fel gorchudd rhag llwch yn Ysgol Uwchradd Llanidloes pan achubodd disgybl ef a gwnaeth yr ysgol rodd ohono i ni.  Oherwydd ei hanes, mae’r cwilt yn eithaf pyglyd gyda staeniau paent.  Clytwaith ar hap o gotymau plaen a phrint a seersucker yw’r ochr ar i fyny.   Mae wedi’i bwytho â pheiriant ac mae yna ddau forder syml, hirsgwar o amgylch yr adran clytwaith ar hap.  Blanced wlân yw’r wadin a darn o satîn cotwm blodeuog pinc sydd â staeniau mawr arno yw’r cefn.   1325 x 1715mm.

Cwrlid Ar Hap

Ref: 2004-4

2004-4 crazy patchwork
2004-4 crazy patchwork detail

Cwrlid clytwaith ar hap wedi’i bwytho â llaw, wedi’i wneud o felfed, satin, sidan a ffabrigau ombr sidan a wnaed tua 1880.  Mae’r clytiau ffabrig wedi’u huno â phwythau plu mewn edau felen.  Mae’r cefn wedi’i wneud o gotwm gwyn plaen.  560 x 587mm

Cwilt ar Hap o Ganada

Ref: 2016-4

2016-4 Canadian crazy quilt
2016-4 Canadian crazy reverse

Prynwyd y cwilt diddorol hwn o Ganada yn 2015 ar eBay, fel anrheg i’r rhoddwr oddi wrth ei gŵr.  Gwnaed hwn ym 1952 ar un o randiroedd yr Indiaid yng Nghanada pan roedd pob merch ifanc yn y llwyth yn gorfod gwneud cwilt.  Gwnaed y cwilt amryliw hwn o amrywiaeth o ffabrigau – satîn, crêp, gwlân, sidan gwneud – rhai yn blaen, a rhai yn batrymog, gan gynnwys tartan.  Mae’n gwilt ar hap naill ochr; un ochr yn oblongau o glytwaith ar hap â stribyn cul ar draws un pen.  Mae’r ochr arall wedi’i llunio o flociau ar hap â stribyn i lawr y ddwy ochr.  Mae’r darnau wedi’u pwytho gyda’i gilydd â pheiriant a’r clytiau wedi’u brodio o’u hamgylch â phwythau pluen mewn edau gyfrodedd amryliw. Mae’r ochrau wedi’u cwiltio gyda’i gilydd mewn llinellau â llaw, ynghyd â’r wadin, sef hen gwilt, mewn edau gotwm wen.         1850mm x 1430mm.

Cwilt ar hap bach

Ref: 2016-8

2016-8 Texas small crazy quilt
2016-8 Small Texas crazy quilt reverse

Prynwyd hwn o siop Oxfam yn Aberhonddu ac mae’n bosibl iddo gael ei anfon drosodd fel rhan o ymdrech y rhyfel gan iddo gael ei wneud, yn ôl pob tebyg, yn y 1930au. Mae’r tu blaen wedi’i wneud o ffabrigau siwtiau, melfed, brethyn jersi wedi’i wau, brethyn jersi plaen, ffabrig ffug-groen anifeiliaid, fflaneléd, satîn. Gellir nodi rhai o’r dilladau, e.e.: gwasgod, dartiau, top poced. Mae yna gymysgedd o ddillad merched a dynion. Ar y tu blaen mae yna glytwaith ar hap o ffabrigau brethyn/ gwlân. Mae gan y clytwaith ddau ddarn wedi’u gwnïo at ei gilydd ac ychwanegwyd border. Mae gan dair ochr un border, ac mae gan y bedwaredd ddau forder.

Gwnaed cefn y clytwaith o sgwariau 2.5 modfedd o ffabrigau cotwm blodeuog, streipiau, smotiau a phlaen, mae’n debyg o sachau hadau.  Mae siapiau geometrig wedi’u hargraffu ar rai ohonyn nhw.

Clymir y tair haen gyda’i gilydd rywsut-rywsut mewn gwlân brown sydd wedi’i ffeltio, felly mae’r cwilt wedi’i olchi.

Wedi’i frodio ar un o’r clytiau mae: Love and Sympathy Mrs C C Green, Plain View, Texas.

Mae yna frodio glas tywyll a glas golau ar y tu blaen – pwyth blanced a phwyth pluen o gwmpas y clytiau ar hap ond nid trwy’r tair haen.

Mae’r cwilt wedi’i rwymo mewn gingham cotwm.   1225 x1140mm

Cwilt Ar Hap

Ref: 2021-1-A

2021-1-A

Dyma un o ddau gwilt y gwnaed rhodd ohonyn nhw i ni gan un o drigolion Llanidloes a oedd wedi’u prynu o Farchnad Leeds yn yr 1980au.  Er ei fod yn cynnwys rhai ffabrigau o’r 1930au mae’n bosibl iddo gael ei wneud ar ddiwedd y 1950au. Mae’r ffabrigau a ddefnyddiwyd yn amrywio o ddeunyddiau gwlân, fflaneléd cotwm wedi cael brwsiad, gwlanen wlân, brethyn cotwm/ gwlân cymysg a rhywfaint o wlân wedi’i wau â pheiriant. 

 

Dyluniad clytwaith ar hap sydd i’r cwilt, gyda siapiau afreolaidd amrywiol wedi’u pwytho â pheiriant ar galico cotwm mewn lliw porffor golau, lliwiau gwyrdd amrywiol, lliwiau melyn, lliwiau melynllwyd, brown a gwyn.  Nid oes unrhyw wadin rhwng ochr ar i fyny’r cwilt a’r cefn o galico cotwm, felly mae’r ddwy ochr wedi’u pwytho â’i gilydd â pheiriant ac wedi’u rhwymo â seersucker cotwm mewn streipiau glas a gwyn gyda chorneli o brint cotwm gwahanol.  Mae’r cwilt yn dlws iawn ac yn dangos defnydd medrus o liw.   1600mm x 1760mm.

Cwilt ar Hap Tsieineaidd ag Ymylon Glas

Ref: 2021-7-A

2021-7-A

Mae hwn yn un o bâr o gwiltiau a wnaed yn Tsieina yn yr 1920au.  Y gred yw iddyn nhw gael eu gwneud fel rhan o brosiect elusennol y bu cenhadon o Eglwys Bresbyteraidd Iwerddon yn ei redeg – roedd neiniau ein rhoddwr yn rhan o’r grŵp – gan ddefnyddio ffabrigau a anfonwyd o’r DU.  Ffabrigau sidan (plaen ac wedi’u printio) yw pob un o’r clytiau ar hap ar ochr ar i fyny’r cwilt, mewn lliwiau amrywiol a’r mwyafrif yn ffabrigau blodeuog y credir eu bod gan Liberty of London, gyda rhai patrymau siec a streipiog. Mae’r clytiau wedi’u gosod fel appliqué ar gefndir o fwslin cotwm wedi’i wehyddu’n llac, gan ddefnyddio pwyth pluen mewn edau arlliwiau glas gwahanol. 

 

Mae’r clytiau hyn ar siâp hirsgwar canolog gyda rhwymiad fflansio mewn du o’i amgylch ac yna border llydan mewn sidan glas Wedgwood, wedi’i ffurfio trwy ddod â chefn y cwilt drosodd i’r tu blaen.  Rhwng hyn ceir wadin sidan.  Mae’r cefn wedi’i wneud o dri darn o ffabrig sydd wedi’u pwytho â’i gilydd â llaw. Mae’r cwilt wedi’i gwiltio â llaw mewn edau glas tywyll.  Mae dyluniad latis wedi’i ddefnyddio dros yr ardal glytiog, gyda dyluniad cragen fylchog dros y border o’i amgylch, sydd â chorneli wedi’u meitro.  Mae yna rywfaint o dystiolaeth o’r wadin wedi gwthio trwy’r ffabrig ar y cefn, lle mae’r broses gwiltio wedi’i dynnu trwodd – yn aml, defnyddio nodwydd ddi-fin sy’n achosi hyn. Mae yna dystiolaeth hefyd o drwsio mewn mannau ac ychydig o staenio ysgafn mewn coch a melyn, o bosibl o ganlyniad i’r lliw yn rhedeg yn ystod ei olchi.   Yn ein barn ni, mae’n bosibl mai darn ymarfer oedd y cwilt hwn, a wnaed cyn ei bartner (2021-7-B) gan ei fod yn llai ac mae dyluniad latis y cwiltio’n well ar y llall.     1335mm x 1580mm.

Cwilt ar Hap Tsieineaidd ag Ymylon Glas

Ref: 2021-7-B

2021-7-B

Mae hwn yn un o bâr o gwiltiau a wnaed yn Tsieina yn yr 1920au.  Y gred yw iddyn nhw gael eu gwneud fel rhan o brosiect elusennol y bu cenhadon o Eglwys Bresbyteraidd Iwerddon yn ei redeg – roedd neiniau ein rhoddwr yn rhan o’r grŵp – gan ddefnyddio ffabrigau a anfonwyd o’r DU.  Ffabrigau sidan (plaen ac wedi’u printio) yw pob un o’r clytiau ar hap ar ochr ar i fyny’r cwilt, mewn lliwiau amrywiol a’r mwyafrif yn ffabrigau blodeuog y credir eu bod gan Liberty of London, gyda rhai patrymau siec a streipiog.

 

Mae’r clytiau wedi’u gosod fel appliqué ar gefndir o fwslin cotwm wedi’i wehyddu’n llac, gan ddefnyddio pwyth pluen mewn edau o un arlliw glas.  Mae yna rai clytiau trwsio sydd wedi’u gwneud o ffabrigau mwy modern ac sydd wedi’u gosod yn syth ar ben y rhai gwreiddiol o fewn y pwythau pluen. Mae hyn wedi’i wneud yn daclus iawn. Mae’r clytiau hyn ar siâp hirsgwar canolog gyda rhwymiad fflansio mewn du o’i amgylch ac yna border llydan mewn sidan glas Wedgwood, wedi’i ffurfio trwy ddod â chefn y cwilt drosodd i’r tu blaen.  Rhwng hyn ceir wadin sidan. 

 

Mae’r cefn wedi’i wneud o bedwar darn o ffabrig o wahanol ledau sydd wedi’u pwytho â’i gilydd â pheiriant. Mae’r cwilt wedi’i gwiltio â llaw mewn edau glas ychydig yn oleuach.  Mae dyluniad latis wedi’i ddefnyddio dros yr ardal glytiog, gyda dyluniad cragen fylchog dros y border o’i amgylch, sydd â chorneli wedi’u meitro.  Mae’n bosibl bod y cwilt hwn wedi’i wneud ar ôl ei ‘bartner’ (2021-7-A) gan fod hwn yn fwy ac mae’r dyluniad latis yn well na’r un a ddefnyddiwyd ar y llall. 1260mm x 1650mm.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â Y Gymdeithas Gwiltau neu
Canolfan Celfyddydau Minerva, cysylltwch â ni yma

bottom of page