Pwy ydym ni
Sefydliad aelodau y mae gwirfoddolwyr yn ei redeg yw’r Gymdeithas Gwiltiau. Fe’i ffurfiwyd yn wreiddiol ym 1996 pan benderfynodd grŵp o ffrindiau â diddordeb mewn clytwaith a chwiltio y bydden nhw’n ymchwilio i’r posibilrwydd o sefydlu Canolfan Gwiltio yng Nghanolbarth Cymru.
​
Yr hyn rydym ni’n ei wneud
Mae’n bosibl mai am ei harddangosfa haf hynyddol, a gynhelir bob blwyddyn o ganol fis Gorffennaf hyd canol mis Medi, y mae’r Gymdeithas Gwiltiau’n fwyaf adnabyddus. Mae’r arddangosfa hon wedi ennill enw da am arddangos gweithiau cyfoes ardderchog ochr yn ochr â detholiad o gwiltiau hynafol o gasgliadau o bob rhan o’r wlad. Ceir rhaglen o weithdai cysylltiedig bob haf.
Mae gofalu am gasgliad cynyddol cwiltiau hynafol y Gymdeithas yn flaenoriaeth arall iddi, a daw llawer ohonyn nhw o’r ardal leol. Mae’r casgliad ar gael, trwy apwyntiad, ar gyfer astudio at ddibenion personol neu ddibenion ymchwil. Mae gwirfoddolwyr yn catalogio’r eitemau yn y casgliad, yn trefnu gwaith gwarchod ac yn ymchwilio i eitemau unigol, gan edrych ar y technegau creu, ffabrigau, arddulliau cwiltio a chlytwaith a hanes cymdeithasol y gwneuthurwr. Caiff yr eitemau eu harddangos yn y Ganolfan neu mewn man arall, fel bo’n briodol, a rhoddwyd lle amlwg i rai eitemau mewn cyhoeddiadau, boed yn llyfrau neu’n gylchgronau.