top of page
red and white strippy.jpg

Cwilt stripiau coch a gwyn

Ref: 2002-12

2002-12 red and white strippy quilt
2002-12 red and white strippy quilt

Mae gan y cwilt stripiau hwn streipiau coch a gwyn trawiadol sy’n rhedeg ar hyd y cwilt cyfan. Fel sy’n arferol i gwiltiau stripiau, gosodir y stripiau mewn odrifau, sef pum coch a phedwar gwyn. Ymwelydd a ddaeth â’r cwilt i Ganolfan Celfyddydau Minerva, a phrynwyd ef am £40 yn 2002.

Roedd cwiltiau stripiau'n boblogaidd iawn yng Nghymru a Gogledd Lloegr. Mae Averil Colby yn ysgrifennu am gwiltiau stripiau yn ei llyfr “Patchwork” a gyhoeddwyd ym 1958. Ynddo, mae’n dweud bod y traddodiad Cymreig wrth greu cwiltiau stripiau fwy neu lai yr un fath ag ydoedd yn y Gogledd, ond bod lliwiau’r defnyddiau’n fwy trymaidd – mae porffor, majenta a du weithiau wedi’u cynnwys mewn un cwilt. Yn anffodus, nid oedd unrhyw hanes gyda’r cwilt hwn, felly mae ei darddiad yn ddirgelwch. Fodd bynnag, roedd cwiltiau stripiau’n boblogaidd rhwng 1860 a 1930, ac mae’n debygol iddo gael ei wneud yn ystod y cyfnod hwn. Maen nhw’n gymharol hawdd i’w llunio, a bydden nhw’n cael eu defnyddio’n aml fel cwiltiau bob dydd yn hytrach na fel cwiltiau gorau.

Twil cotwm yw’r ffabrig ar yr ochr stripiau, gyda chotwm gwyn gwehyddiad plaen ar yr ochr arall.

Byddai cwiltiau stripiau traddodiadol yn cael eu cwiltio mewn patrymau’n rhedeg i lawr y stripiau. Fodd bynnag, mae’r cwiltio â llaw mewn patrwm igam-ogam yn mynd ar draws y cwilt mewn edau wen. Mae’r border wedi’i orffen â 9 rhes o bwythau peiriant mewn gwyn.

Cwilt stripiau art deco (c1920s)

Ref: 2002-13

2002-13 strippy art deco quilt
2002-13 strippy art deco quilt

Mae’r cwilt hwn, o ardal Caerfyrddin yn ne orllewin Cymru, wedi’i wneud o ffabrig cotwm gyda phanel canolog mewn print arddull Art Deco pinc, gwyn a du. Daeth Art Deco i’r amlwg yn negawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif wrth i’r pethau a oedd yn dylanwadu ar ddyluniadau ddechrau newid o ffurfiau organig Art Nouveau. Seiliwyd ef ar siapau geometrig, a dylanwadwyd arno gan sawl mudiad celf, fel Ciwbiaeth a Dyfodolaeth. Cafodd ddylanwad ar bensaernïaeth a dyluniad dodrefn, ac fe ysbrydolodd lawer o batrymau ffabrig trawiadol iawn hefyd, fel yr un yma.

Nid cwilt stripiau nodweddiadol mo hwn; yn hytrach, mae’r ffabrigau cotwm gwehyddiad plaen wedi’u rhoi at ei gilydd â pheiriant mewn hydau hir neu flociau. Cwiltiwyd y cwilt yn yr 1920au â llaw, gyda phatrwm igam-ogam tonnog mewn edau hufen. Lliain fflaneléd yw’r wadin i bob golwg, a gorffennwyd y cwilt ag ymylon wedi’u bytio (mae’r wadin wedi’i drimio’n ôl ac mae ymylon y ffabrig wedi’u troi i mewn a’u gwnïo â’i gilydd).

Cwilt stripiau glas a gwyn

Ref: 2002-18

2002-18-E blue and cream strippy
2002-18-E blue and cream strippy

Gwnaed y cwilt stripiau hwn gan Elizabeth Morgan o Sir Gaerfyrddin, a fu’n gweithio fel cwiltwraig grwydrol yn ne orllewin Cymru. Mae yna dri stripyn llorweddol mewn satîn cotwm glas, a phedwar mewn cotwm hufen gwehyddiad plaen. Ceir print ar y ddau ffabrig; rhosod pinc llachar ar y cotwm hufen. Mae’r cwiltio â llaw yn gain mewn edau wen, gyda throellau, bwâu a sieffrynau i’w gweld.

Ganed Elizabeth Morgan (1856 – 1945) yn Llanrhystyd yn Sir Gaerfyrddin. Mae cyfrifiad 1881 yn dangos mai “cwiltwraig” ydoedd, ac mai ‘casglwr wyau’ oedd ei mam weddw (o’r enw Elizabeth hefyd). Nid oedd modd ennill rhyw lawer o arian yn y naill alwedigaeth na’r llall, ond roedd enw eu bwthyn bychan yn gwawdio tlodi: “Thimble Hall” oedd eu henw arno.

Byddai’r Elizabeth hŷn yn cadw tŷ tra bo’i merch yn teithio o amgylch y ffermydd yn y gymdogaeth yn gwnïo cwiltiau yn ôl yr archeb. Fel rheol, byddai cert fferm yn casglu ei ffrâm gwiltio ond byddai Elizabeth, ac yn ddiweddarach ei phrentis, Jane, yn cerdded i’r fferm lle bydden nhw’n aros hyd nes byddai'r gwaith wedi'i gwblhau. Bydden nhw fel rheol yn gwneud cwiltiau o frethyn cyfan, ond weithiau bydden nhw’n gwneud rhai stripiau. O bryd i’w gilydd, bydden nhw’n gwneud cwilt clytwaith er nad oedd gan Elizabeth fawr o feddwl ohonyn nhw. Cyfaddefodd fod clytwaith yn well na gwastraffu deunyddiau da, ond cwiltwraig ydoedd yn y bôn.

Yn ddiweddarach yn ei bywyd, pan roedd yn briod ac y symudodd i Park Place, Gilfach, fe aeth ymlaen i gwiltio er mwyn ychwanegu at gyflog pitw ei gŵr. Mae ei mab yn cofio gorfod gwthio edau drwy 20 neu fwy o nodwyddau cyn gadael am yr ysgol, gan fod golwg Elizabeth yn dechrau methu hyd yn oed bryd hynny. Byddai’n defnyddio llinyn gwyn a darn o sialc i lunio patrymau cwiltio ar y brethyn. Byddai troellau a chychod gwenyn yn cael eu hamlinellu’n gyflym a’u cwiltio’n gyflym ar y ffabrig. Mae gyrfa Elizabeth yn dangos sut gallai cwiltwraig gefnogi ei dull ei hun a dibynnydd o fyw, a gwneud gwahaniaeth sylweddol i safon byw’r teulu.

Cwilt stripiau coch a gwyn blodeuog

Ref: 2002-18-F

2002-18-F red floral and white strippy
2002-18-F red floral and white strippy

Sarah Ann Davies (1862 – 1944) a wnaeth y cwilt stripiau hwn (1990 x 1845mm). Fe’i ganed ym Mhontrhydyfen yng Nghastell-nedd Port Talbot, Gorllewin Morgannwg, De Cymru. Bu farw ei mam o’r diciâu pan oedd Sarah yn ddwyflwydd, a magwyd hi’n gariadus gan ei llysfam. Oherwydd tlodi, bu’n rhaid iddi hi adael cartref pan oedd tua deg oed i ddod yn llaethferch yn Llangyfelach ac, yn ddiweddarach, yng Nghastell-nedd. Byddai’n dod adref wedi ymlâdd yn llwyr ar ei dyddiau prin i ffwrdd o’r gwaith. Rhoddai ei llysfam groeso cariadus iddi, ond ar ôl ei rhoi i eistedd wrth y tân gyda chwpanaid o de poeth, byddai’n rhoi hosan wedi hanner ei gwau neu ddarn o waith gwnïo iddi fwrw ymlaen ag ef. Arferai ei llysfam ddweud, “Fydd ddim yn rhaid gweithio unrhyw bwyth y gwnei di nawr fyth eto”.

Priododd Sarah Ann â David Davies yn Aberdâr, a dechreuodd wnïo cwiltiau i’w theulu ei hun a oedd yn cynyddu’n gyflym. Roedd David, a oedd yn ŵr mwyn ysgolheigaidd, yn gweithio fel glöwr nes iddo flino ar yr aflonyddwch diwydiannol parhaus yn yr ardal honno, a symudodd y teulu o Aberdâr i Abertridwr lle cafodd waith yng Nglofa Windsor. Ganwyd wyth plentyn i Sarah ond bu farw nifer ohonyn nhw’n ifanc iawn. Bu’n brwydro’n galed trwy gydol ei bywyd yn erbyn y tlodi enbyd a wynebai. Roedd yn cadw safonau uchel – byddai’r tŷ’n sgleinio, ni wastraffwyd ceiniog a gwnaed defnydd da o bopeth.

Gwnaeth Sarah lawer o gwiltiau o ffabrigau wedi’u “hailgylchu” a ffabrigau o lyfrau patrymau o’r siopau defnyddiau yn Abertridwr. Wrth i’w merched dyfu, dysgodd Sarah grefft clytwaith iddyn nhw. Cofia Eunice, ei merch, gael ei dysgu’n blentyn i wnïo’r clytiau at ei gilydd ac yna, pan oedd yr wynebau wedi’u cwblhau, deuai’r ffrâm gwiltio i lawr o’r tu ôl i’r soffa rhawn er mwyn dechrau’r broses gwiltio.

Mae gan y Gymdeithas Gwiltiau nifer o gwiltiau Sarah yn ei chasgliad. Maen nhw’n “llyfrau patrymau” yn eu hunain a gellir dysgu llawer am fywyd y Cymoedd yn ystod chwarter cyntaf y ganrif wrth eu hastudio.

Cwilt stripiau aur a phinc

Ref: 2012-3

2012-3 gold and pink strippy
2012-3 gold and pink strippy

Cwilt stripiau Cymreig yw hwn, o satîn aur a phinc. Mae’r saith stribyn o wahanol ledau wedi’u huno â pheiriant, ac mae’n bosibl defnyddio’r naill ochr neu’r llall. Mae’r cwilt wedi’i gwiltio â llaw ag edau goch mewn arddull sy’n nodweddiadol Gymreig. Mae yna fedaliwn yn y canol, â borderi, ac mae symbolau’r cwilt yn cynnwys troellau, ffaniau a dail. I bob golwg, mae’r cwilt wedi’i lenwi â blanced a darnau eraill o ddeunyddiau.

 

Prynwyd y cwilt yn wreiddiol o farchnad stryd yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, a dywedwyd wrth y prynwr ei fod wedi dod o Gaerfyrddin. Mae’n bosibl mai yn y 1930au y gwnaed y cwilt, adeg yr adfywiad cwiltiau yn Ne Cymru a hybwyd gan gynllun cyflogaeth y Swyddfa Diwydiannau Gwledig. Y nod oedd i ddosbarthiadau cwiltio, arddangosfeydd a chymorth ariannol annog menywod a oedd yn byw mewn ardaloedd gwledig i gynhyrchu cynhyrchion cwiltio o safon uchel, a maes o law roedd llawer o’r rhain i’w gweld mewn siopau pen ucha’r farchnad yn Llundain. Daeth y Swyddfa Diwydiannau Gwledig i ben ar ddiwedd y 1930au a dechrau’r Ail Ryfel Byd, ond mae darnau sydd wedi’u cwiltio’n gain, fel hwn, yn rhan o’r etifeddiaeth.

Cwilt stripiau coch a gwyn (c1880)

Ref: 2013-3-A

2013-3-A red and white strippy
2013-3-A red and white strippy

Cwilt stripiau coch a gwyn Cymreig yw hwn, yn dyddio o ryw 1880, wedi’i gwiltio â llaw gyda motiffau Cymreig amlwg, gan gynnwys medaliwn yn y canol, sieffrynau, troellau a siapiau dail. Nid yw’r cwiltio’n dilyn cyfyngiadau’r stripiau, sef yr arddull Cymreig, sy’n wahanol i arddull cwiltio stripiau Gogledd Lloegr.

Mae yna ddyfyniad Cymraeg, hefyd wedi’i wnïo mewn edau wen, sef: Nac ymffrostia or dydd y fory Canys ni wyddast beth a ddigwydd mewn diwrnod. Daw’r dyfyniad o’r Beibl, y Bregeth ar y Mynydd, Matthew 6, adnod 34. Mae’r llythrennau blaen A.M., efallai rhai’r gwneuthurwr, hefyd wedi’u brodio o dan hwn.

Roedd hi’n beth eithaf cyffredin gwneud cwiltiau’r Beibl ar ddiwedd y 19eg ganrif ym mhobman ar Ynysoedd Prydain. Yng Nghymru, gwelwyd yr enwadau anghydffurfiol yn ehangu’n helaeth gydol rhan gynnar y ganrif, gyda thuag un capel newydd yn cael ei agor bob wyth diwrnod. Roedd crefydd yn chwarae rhan hynod bwysig ym mywyd bob dydd, hyd yn oed mewn cymunedau gwledig anghysbell, pan roedd hi’n beth arferol mynd i’r capel yn rheolaidd. “These were pious people, living in a less secular age, for whom the use of such Christian texts was an integral part of their lives and an entirely natural form of decoration.” Quilt Treasures, The Quilter’s Guild Heritage Search, 1995.

Prynwyd y cwilt mewn arwerthiant ym Machynlleth, sef tref farchnad fach ar ymyl ogledd-orllewinol Powys, ar ddechrau’r 1990au, a gwnaed rhodd ohono i’r Gymdeithas Gwiltiau yn 2013. Mae wedi’i wneud o stripiau twil cotwm, ac mae wedi’i lenwi â blancedi gwlân a deunydd siwtiau wstid. Twil cotwm coch â smotiau porffor yw’r ffabrig ar y cefn.

Cwilt Brethyn Cyfan Stripiau

Ref: 2003-2

2003-2 pale pink strippy
2003-2 pale pink strippy detail

Gwnaed rhodd o’r cwilt hwn i ni yn 2003 ac roedd wedi’i brynu’n wreiddiol mewn marchnad yn Llundain yn y 1970au am £20.  Mae’n bosibl iddo gael ei wneud yn ystod y 1920au neu’r 1930au ac mae’n bosibl ei fod o Ogledd Lloegr.  Mae’r ochr ar i fyny wedi’i wneud o naw panel cul o satîn cotwm pinc golau a hufen, er bod y pinc bellach wedi pylu cryn dipyn.  Cotwm hufen plaen yw’r cefn a chotwm yw’r wadin. 

 

Mae’r cwilt wedi’i gwiltio’n hynod gain â llaw mewn edau wen, gan ddefnyddio dyluniad o blu, ffaniau, ceblau, bwâu a sieffrynau.  2301 x 1806mm.

Cwilt Wlanen Plentyn

Ref: 2003-6

2003-6 child's flannel quilt
2003-6 child's flannel quilt detail

Cwilt plentyn yw hwn wedi’i wneud o wlanenni streipiog a gynhyrchwyd ym Melin Pen-y-bont, Llanidloes.   Gwnaed ef yn y 1930au gan fam a modryb ein rhoddwr, sy’n cofio cysgu oddi tano pan yn blentyn.  Clytwaith yw’r ochr ar i fyny a’r cefn, wedi’i wneud o ddarnau amrywiol eu maint o ffabrig wedi’u pwytho gyda’i gilydd â pheiriant.  Mae’r ochr ar i fyny a’r cefn wedi’u cwiltio at ei gilydd (nid oes yna wadin) â pheiriant, yn y ffos rhwng y darnau ac mae yna rwymiad gwlanen llydan.  Mae staen inc mawr i’w weld yng nghanol y cwilt.   1640 x 1005mm. 

Cwilt Stripiau Cymreig

Ref: 2014-2

2014-2 welsh strippy
2014-2 welsh strippy detail

Mae gan roddwr y cwilt hwn gysylltiadau teuluol â Sir Benfro ac mae’n meddwl mai oddi yno y daeth yn wreiddiol.  Mae’n debygol iddo gael ei wneud ar ddiwedd y 19eg Ganrif.  Mae’r ochr ar i fyny wedi’i gwneud o chwe stribyn o gotwm gwead plaen hufen a phum stribyn o dwil cotwm coch sydd wedi’u pwytho at ei gilydd â pheiriant.  Gwlân dafad yw’r wadin sydd wedi’i ddatrys ond heb ei gribo. 

 

Mae’r cwilt, sydd â chefn o gotwm hufen, wedi’i gwiltio’n gain â llaw mewn edau gotwm wen.  Mae gan y medaliwn yn y canol bedwar petal gyda throellau a chroeslinellu rhyngddyn nhw.  Mae’r dail wedi’u gwneud o gylchoedd yn gorgyffwrdd.  Nid yw’r cwiltio’n cymryd unrhyw sylw o’r stripiau, fel sy’n draddodiadol mewn cwilt stripiau Cymreig.  Mae ymyl ddwbl y dail yn nodweddiadol o arddull Sir Benfro.  1902 x 1807mm.

Cwilt Stripiau

Ref: 2017-1-C

2017-1-C strippy quilt
2017-1-C strippy quilt detail

Gwnaed y cwilt stripiau Cymreig hwn ddiwedd y 19eg ganrif yn ardal Tyddewi, Sir Benfro.  Mae’r ochr ar i fyny wedi’i gwneud o naw stribed o ffabrigau twil coch a gwyn wedi’u huno â pheiriant.  Mae’r cefn wedi’i wneud o ffabrig â phatrwm persli. Mae yna dystiolaeth bod y wadin gwlân rhwng yr ochr uchaf a’r cefn wedi gwthio trwy’r ffabrig. Hynny yw, mae’r nodwydd wedi gwthio’r wadin trwy’r prif ffabrig wrth iddi gael ei gwthio trwodd (yn aml oherwydd mai nodwydd ddi-fin sydd wedi’i defnyddio).

 

Serch y posibilrwydd bod nodwydd ddi-fin wedi’i defnyddio, mae’r cwiltio â llaw mewn edau gotwm wen yn hynod gain. Mae yna batrwm penodol i bob stribed, sy’n anghyffredin mewn cwiltiau stripiau Cymreig.  Mae gan ddau stribed sieffrynau, mae gan ddau ddail, glöynnod byw, calonnau a cheblau ac mae gan dri wydrau gwin.  Mae yna geblau yn y ddau stribed allanol a border bychan o geblau. Mae defnyddio llawer o galonnau’n awgrymu y gallai hwn fod yn gwilt priodas.    2372mm x 2118mm.

Cwilt Stripiau o Ogledd Lloegr

Ref: 2017-2

2017-2

Yn dyddio o’r 1930au, cwilt stripiau tlws iawn o Ogledd Lloegr yw hwn gyda streipiau cotwm gwyn a phinc ar yr ochr ar i fyny a chotwm hufen ar y cefn.  Mae’r stribedi wedi’u pwytho â pheiriant. Gwnaed y cwiltio o safon dda mewn edau gotwm wen a hufen a phob stribed wedi’i gwiltio ar wahân.  Mae’r dyluniad yn defnyddio ceblau, blodau, plu a strimynnau tonnog.      2390mm x 2000mm

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â Y Gymdeithas Gwiltau neu
Canolfan Celfyddydau Minerva, cysylltwch â ni yma

bottom of page