Cwilt cot Laura Ashley (c1980s)
Ref: 1998-1
Cwilt clytwaith hecsagonau o ddiwedd yr 20fed ganrif yw hwn, wedi’i wneud yn bennaf o ffabrigau Laura Ashley.
Daeth Laura Ashley (1925 – 1985) yn enw cyfarwydd fel dyluniwr ffabrigau a ffasiwn yn y 1960au a’r 1970au â’i phrintiau blodeuog nodweddiadol, weithiau wedi’u hysbrydoli gan decstilau hynafol. Gan ddechrau ag eitemau bach, fel sgarffiau, napcynau a llieiniau sychu llestri, aeth Laura a'i gŵr Bernard ymlaen i greu cwmni ffasiwn a dodrefnu rhyngwladol, â’i sail yn gadarn yng Nghanolbarth Cymru am flynyddoedd lawer.
Bu’r teulu’n byw am rywfaint uwchben eu siop gyntaf ym Machynlleth, Powys, Canolbarth Cymru cyn symud i gyrion Carno ar ddiwedd y 1960au. Yn gynnar yn natblygiad y cwmni, dyfeisiodd Bernard ei broses brintio ei hun, a chanolbwyntiodd Laura ar ddylunio’r ffabrigau adnabyddus. Am fwy na thri degawd, cynhyrchodd ffatri wreiddiol Laura Ashley yng Ngharno ddillad i’w gwerthu i’r hyn a ddaeth yn fwy na 5,000 o siopau ledled y byd erbyn 1981.
Bu Laura farw’n drasig ym 1985, ond parhaodd y cwmni i ffynnu, yn dylunio tecstilau, dillad a dodrefn ar gyfer sail cwsmeriaid rhyngwladol.
Prynwyd y cwilt cot hyfryd hwn am £2 o siop elusen leol. Gwerthwyd darnau ffabrigau Laura Ashley yn y 1970au i glytweithwyr eu defnyddio, ac mae’r rhain yn nodweddiadol o ffabrigau’r cyfnod hwnnw. Mae’r clytwaith hecsagonau wedi’i wnïo â llaw a defnyddiwyd peiriant ar gyfer y pwythau i rwymo'r ymylon.
Cwilt hecsagonau (c1880)
Ref: 2002-2-A
Cwilt clytwaith hecsagonau amryliw yw hwn, gyda medaliwn yn y canol. Fe’i gwnaed ar gyfer Arglwyddes Aberdâr o Flaenau, ger Rhydaman, gan Letitia Davies a oedd yn byw yn ardal Llandeilo, tua 1880.
Mae'r ffabrigau print sydd wedi’u cynnwys yn y clytwaith yn dyddio o’r 1860au/70au yn bennaf. Mae yna rai cotymau print gwehyddiad plaen hefyd, a phedwar hecsagon coch gwehyddiad twil (roedd coch Twrci’n ffasiynol yn nhrydydd chwarter y 19eg ganrif – mae hwn yn nodweddiadol o'r ffabrig a ddefnyddiwyd ar gyfer peisiau).
Mae’r printiau’n amryliw – ceir llawer o brintiau blodeuog mewn lliwiau glas golau, sbrigau ar gefndiroedd salw, delweddau ffrwythau, smotiau crynion a chylchoedd dulas. Fodd bynnag, lliwiau pinc sydd i’w cael yma fwyaf – cynhyrchwyd y rhain ar ôl i’r lliw alisarin synthetig ddod i’r amlwg. Ar y pryd, roedd yn gyffrous cael ffabrigau gwisg pinc nad oedden nhw’n dibynnu ar liw cochbryfed. Roedd lliwiau pinc y 18fed ganrif yn hynod ddrud, a merched ifanc yn unig fyddai’n eu gwisgo. Erbyn y 19eg ganrif, byddai menywod hŷn yn gwisgo pinc cwrel.
Blanced wlân yw’r wadin. Mae’r darn wedi’i gwiltio â llaw ag edau wen i lunio’r gellygen bersli, a blodau. Mae glas yn nodi llinellau’r cwiltio ar y tu ôl.
Astudiwyd y ffabrigau print ym mis Medi 2009 mewn gweithdy gyda Dr Philip Sykas, Ymchwilydd Cyswllt ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion.
Darn clytwaith (c1850s)
Ref: 2004-3
Darn clytwaith o hecsagonau wedi’u rhoi at ei gilydd dros bapur yw hwn, sef canol cwilt mwy mae’n debyg. Mae rhai o’r ffabrigau’n dyddio o’r 1830au, y 1840au a’r 1850au.
Mae’r hecsagonau wedi’u rhoi at ei gilydd dros bapur ac wedi’u gwnïo â’i gilydd â llaw. Mae un papur ynddo o hyd. Prynwyd y darn o siop elusen yn Llanidloes. Mae mewn cyflwr gwael, yn enwedig o amgylch yr ymylon lle mae wedi rhwygo a threulio. Er hynny, mae’n cynnwys rhai ffabrigau diddorol o ganol y 19eg ganrif, a ddarparodd y sail ar gyfer astudiaeth gweithdy ym mis Medi 2009 â Dr Philip Sykas, Ymchwilydd Cyswllt ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion.
Mae’r oren a’r melyn crôm yn dyddio o tua 1830. Mae’r hecsagon canolog yn llachar iawn, a gan ei fod yn y canol, mae’n awgrymu ei fod yn ffabrig arbennig iawn.
Mae yna nifer o ffabrigau eraill o’r 1830au – printiau rholeri cain. Maen nhw’n ddyluniadau ar arddull cashmir, gyda strimynnau main, ac yn geometrig iawn. Mae iddyn nhw gyfrif edeifion main.
Mae’r lliwiau glas Prwsiaidd yn nodweddiadol o’r 1840au. Mae’r lliw wedi’i gymhwyso’n drymach ac nid yw mor dueddol o bylu, felly mae’n dal i fod yn gryf.
Mae yna ffabrigau porffor unigol o’r 1840au, a ddaeth yn fwy poblogaidd nag indigo bryd hynny. Byddai pobl o’r dosbarth canol yn gwisgo’r ffabrig hwn ar gyfer ei gwisg bob dydd, ond ni fydden nhw’n mynd allan ynddo. Ar ôl y 1840au, ystyriwyd ei fod yn ffabrig llai dymunol ar y cyfan. Mae yna hefyd ddau ffabrig porffor, lle mae’r arlliw ysgafnach wedi’i ffurfio trwy ddotwaith. Yn y 1830au, datblygwyd y gallu i roi dau liw ar roler trwy engrafio’n ddyfnach.
Cwrlid hecsagonau gwlân (1882)
Ref: 2008-2
Mae dyddiad y cwrlid hecsagonau gwlân hwn, sef 1882, yn yr hecsagon yn y canol, gyda’r enw “Jones” wedi’i bwytho yno hefyd. Fe’i gwnaed yng Nghymru yn ôl pob tebyg, a gwnaed rhodd ohono i’r Gymdeithas Gwiltiau.
Mae’r cwrlid yn mesur 1930 x 1625mm, ac fe’i gwnaed o hecsagonau mewn brethynnau cotwm caerog a phlaen, gyda gwlanen goch ar y cefn wedi’i phlygu drosodd i’r tu blaen. Mae corneli’r wlanen yn feitrog gyda chlytwaith appliqué drosti. Mae wedi’i gwiltio â llaw gyda llinellau syth o bwyth rhedeg mewn edau dywyll, ac mae hefyd wedi’i bwytho â pheiriant i’r wlanen o amgylch yr ymylon. Ceir papurau o hyd yn rhai o’r darnau hecsagon.
Arddangoswyd y cwrlid trawiadol hwn yn sioe haf y Gymdeithas Gwiltiau yn 2008.
Gorchudd hecsagonau gyda phapurau (c1860)
Ref: 2009-1-B
Gorchudd hecsagonau heb ei orffen yw hwn, gyda’i bapurau a detholiad diddorol o ffabrigau’n dyddio o ganol y 1800au i’r 1880au. Roedd yn un o set o saith rhodd a oedd yn cynnwys clytwaith, appliqué ac un brethyn cyfan. Fe brynodd y Gymdeithas gwilt brethyn cyfan (2009-1-H) o’r un ffynhonnell yn Swydd Gaer yn ddiweddarach.
Mae’n ymddangos mai yng Ngogledd Cymru y gwnaed yr eitem hon a’r eitemau eraill yn y casgliad hwn. Yma, gallwn ddod o hyd i amryw gliwiau yn y papurau ar du ôl yr hecsagonau, gan gynnwys un â marc post 2 Ion 1888, Conwy.
Trafodwyd y ffabrigau a ganlyn mewn gweithdy gyda Philip Sykas ym mis Medi 2009.
-
Enghraifft fwy diweddar o lapis, o’r 1830/40au. Byddai ffabrigau lapis yn cael eu cynhyrchu’n wreiddiol gan ddefnyddio proses unigryw a fyddai’n caniatáu printio lliwiau coch yn gyfagos at rai glas.
-
Ffigyrau Kate Greenaway sydd, o bosibl, yn dyddio o’r 1880au.
-
Gwelir motiffau Japanesg yn y platiau cylchol ar gefndir tywyll.
-
Roedd fioledau brithion yn boblogaidd rhwng yr 1880au a’r 1890au. Adfywiad o hen brint yw’r cefndir tywyll. Mae’r modd y maen nhw wedi’u graddliwio’n fanwl gywir yn rhoi’r argraff o bentagraff wedi’i engrafu
Clytwaith hecsagonau heb ei orffen (c1830s)
Ref: 2009-4-A
Dyma ichi glytwaith hecsagonau heb ei orffen a wnaed yn ardal Llanarth yng Ngorllewin Cymru, yn ystod ail chwarter y 19eg ganrif yn ôl pob tebyg. Nid yw’n hysbys pwy yn union wnaeth y clytwaith, ond roedd y gwneuthurwr yn perthyn i David (1826 - 1903) a Grace Davies (1828 - 1901), a oedd yn byw yn Llanarth. David oedd y cofrestrydd (neu Swyddog Cymorth fel y’i gelwid) yn Llanarth.
Mae’r darn hwn yn arbennig o ddiddorol gan ei fod yn cynnwys cymaint o enghreifftiau da o ffabrigau’n dyddio o 1810 - 1830. Nid yw’r rhain wedi pylu, gan na orffennwyd y gwaith erioed, ac fe’i rhoddwyd i gadw am ddegawdau. Mae llawer o’r papurau, a’r brasbwythau a oedd yn eu cadw yn eu lle, hefyd yn dal i fod yno. Mae’r pwytho i gyd wedi’i wneud â llaw. Mae dyddiad Medi 27 1782 wedi’i nodi ar un o’r papurau – mae hwn wedi’i ysgrifennu mewn inc. Mae marc post ar bapur arall yn nodi’r dyddiad 1832.
Dimiti gwyn, sef ffabrig gwead streipiog, yw’r cefndir. Ymhlith yr hecsagonau eraill mae enghreifftiau o ffabrigau, gan gynnwys dyluniad Lane’s Net, engrafiad pwnsh, patrwm crwybrol, engrafiad dotwaith, engrafiad ecsentrig, print lapis, ac arddull ombr neu enfys.
Roedd y clytwaith yn adnodd astudio defnyddiol iawn ar gyfer y prosiect Ditectifs Cwiltiau a ariannwyd gan y loteri yn 2009, pan gynhaliodd Dr Philip Sykas, Ymchwilydd Cyswllt ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion, weithdai mewn tecstilau printiedig yng Nghanolfan Celfyddydau Minerva.
Darn o glytwaith hecsagonau (c1830s)
Ref: 2011-4
Darn clytwaith hecsagon anghyflawn yw hwn, gyda’r papurau’n dal i fod yn eu lle. Roedd ymhlith eiddo orhen-nain y rhoddwr. Ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, roedd yn feistres tŷ yn Nhongwynlais, ger Caerdydd.
Mae’r papurau’n dal i fod yn yr hecsagonau. Maen nhw wedi’u gwnïo â llaw yn daclus iawn mewn edau wen, ac mae’r brasbwythau yno o hyd. Mae yna rifau ar bob un o’r papurau, ac maen nhw wedi’u gwnïo â’i gilydd yn unol â hyn. Mae’r dyddiad 1832 ar un ohonyn nhw a’r dyddiad 13 Gorffennaf 1837 ar un arall. Mae llawer o’r papurau’n ymwneud â thrwyddedau a ffermio. Mae yna rai rhestri siopa hefyd. Ond mae’r dyddiad sydd ar un arall o’r papurau’n ddiweddarach – 1910. Er hynny, daw mwyafrif y ffabrigau o ddechrau i ganol y 19eg ganrif. Felly mae union ddyddiad y gwaith yn dipyn o benbleth. Mae’n bosibl bod y ffabrigau, a’r papurau, wedi’u cadw am sawl blwyddyn cyn eu defnyddio. Neu mae’n bosibl bod y darn wedi’i greu dros gyfnod o llawer o flynyddoedd.
Ar ddechrau i ganol y 19eg ganrif, fe ddatblygodd y diwydiant tecstilau’n gyflym gyda dulliau newydd arloesol o ddefnyddio lliwiau llysiau, gan gynnig lliwiau a dyluniadau newydd. Mae rhai o’r hecsagonau’n defnyddio ffabrigau a oedd yn nodweddiadol iawn o’r cyfnod. Roedd printio lapis, a enwyd ar ôl y garreg led-werthfawr glas dwfn lapis-laswli, yn caniatáu printio lliwiau coch a glas yn union wrth ochr ei gilydd. Mae hecsagonau eraill yn adlewyrchu poblogrwydd y lliwiau a oedd newydd eu datblygu, gan gynnwys gwyrdd chartreuse a lliwiau brown manganîs o’r 1830au. Mae’r patrymau’n cynnwys sbrigau, patrymau blodeuog, streipiau a gridiau. Mae rhai o’r hecsagonau lapis wedi’u llunio o ddarnau bach o ffabrig. Mae ffabrigau tebyg i’w gweld mewn darnau hecsagon eraill sydd yn y casgliad, fel y darn clytwaith hwn a chwilt hecsagon.
Clustog hecsagon (c1880s)
Ref: 2011-5
Clustog siâp hecsagon yw hwn, mewn clytwaith hecsagonau rhosedi a gardd flodau. Mae’n debygol iddo gael ei wneud ar ddiwedd y 19eg ganrif. Mae’n mesur 530 x 530mm o’r naill ymyl i’r llall.
Mae’n debygol i’r hecsagonau gael eu torri o samplau ffabrigau gan fod yna lawer o gyfuniadau lliwiau o’r un print. Mae streipiau, patrymau sgwarog, patrymau blodeuog a ffabrigau galar, oll yn nodweddiadol o ddiwedd y 19eg ganrif, wedi’u defnyddio. Mae cotwm gwead twil coch trymach wedi’i ddefnyddio i wneud y rhosedi.
Mae’r hecsagonau wedi’u pwytho â llaw, pob un yn mesur 21mm ar draws. Pwythwyd y clustog at ei gilydd â pheiriant, heblaw am un ymyl a bwythwyd â llaw, i gau’r clustog mae’n debyg.
Ffabrig blodeuog brown sydd ar y cefn. Efallai ei fod yn dyddio o gyfnod hwyrach, ac mae’n bosibl y gwnaed y clustog ei hun yn hwyrach na’r clytwaith hecsagon gwreiddiol.
Hecsagonau ffabrigau’r 1940au
Ref: 2013-4
Clytwaith hecsagon o Geredigion yw hwn. Gorffennwyd ef ar ddechrau’r 1990au, o ffabrigau o’r 1940au.
Y rhoddwr a wnaeth y clytwaith, rhwng 1986 a 1992. Meddai: “Pan roeddwn i yn fy ugeiniau cynnar, mi ddechreuais i gasglu llawer o ffabrigau a oedd wedi’u defnyddio. Ym 1986, gwnes i ddatblygu glawcoma. Â’r syniad y gallwn i golli fy ngolwg, fe ddechreuais i wneud pentyrrau o hecsagonau. Yn y diwedd, fe greais gwrlid ar gyfer gwely mawr. Fe gymerodd ryw 6 mlynedd i’w gwblhau.”
Mae’r clytwaith hecsagon wedi’i uno â llaw, gan ddefnyddio ffabrigau gwisgoedd cotwm, â phatrymau blodeuog yn bennaf. Mae’r hecsagonau mawr wedi’u torri’n fanwl iawn, i sicrhau bod darnau gorau’r patrwm wedi’u defnyddio. Mae’r “blodau” hecsagon wedi’u gosod yn ofalus i greu patrwm yn hytrach na’u defnyddio ar hap.
Mae yna wadin tenau, sef wadin polyester o bosibl, ac mae’r tair haen wedi’u clymu ar y cefn. O amgylch yr ymylon, mae’r hecsagonau wedi’u plygu i mewn i’r sêm.
Mae’r tu ôl wedi’i wneud o ffabrig lliain hufen. Mae’r darn mewn cyflwr rhagorol gan nad yw wedi’i ddefnyddio.
Gorchudd Bwrdd Gardd Flodau
Ref: 2000-3-A
Gorchudd bwrdd clytwaith hecsagonau bychan yw hwn yn arddull gardd flodau nain a ddaeth o gartref hen fodryb y rhoddwr yn Lerpwl, er nad hi oedd y gwneuthurwr.
Mae wedi’i wneud o felfed cotwm, brocêd a thri math o sidan (gwehyddiad plaen, ffigurog a moiré), gyda du fel y prif liw i amlygu lliwiau gemaidd siapiau’r blodau. Ychwanegodd y rhoddwr y cefn o gotwm hufen plaen ym 1982 a nododd mai papur plaen gwyn oedd y papurau a dynnodd oddi yno ar y pryd. 995 x 1320mm.
Cwilt Cot o’r 1970au
Ref: 2007-4-B
Cwilt cot bychan wedi’i bwytho â llaw yw hwn a wnaed yn y 1970au ac y gwnaeth y gwneuthurwr rodd ohono. Roedd wedi’i wneud mewn dosbarth clytwaith yr oedd Sefydliad y Merched yn ei gynnal yn Aberystwyth. Roedd plant y wneuthurwraig ei hun a phlant eraill yn ei gofal wedi gwneud cryn ddefnydd o’r cwilt, a hithau’n warchodwr plant yn yr 1980au. Cafodd ei ddefnyddio ddiwethaf fel cwilt i’w hwyres yn 2004. Mae wedi’i wneud o ffabrig cotwm gwisgoedd, yn bennaf o gyfnod y 1960au ac mae iddo gefndir melyn golau o hecsagonau, yn gymysg â hecsagonau lliwgar ar ffurf rhosedi. Blanced wlân yw’r wadin ac mae’r cefn wedi’i wneud o liain fflaneléd streipiog. 955 x 660mm.
Cwrlid Hecsagonau
Ref: 2009-1-A
Cwrlid hecsagonau yw hwn a wnaed o ffabrigau o’r 19eg ganrif, ar ddiwedd yr 1880au. Clytwaith o hecsagonau sydd wedi’u pwytho â llaw yw’r ochr ar i fyny. Mae yna gefn o gotwm gwyn, plaen wedi’i wehyddu ond dim wadin. 2240 x 1530mm
Gorchudd Hecsagonau
Ref: 2009-5
Mae’r gorchudd anorffenedig hwn o’r 1980au wedi’i wneud yn bennaf o ffabrigau gwisgoedd cotwm mewn clytwaith o hecsagonau, gan ddefnyddio dyluniad Gardd Flodau Nain ar gefndir o hecsagonau brown canolig. Mae’r hecsagonau i gyd wedi’u pwytho at ei gilydd â llaw. Mae’r papurau’n dal i fod yn eu lle. Mae gan un ddyddiad Ffair Grefftau ym 1983 ac un arall y dyddiad Ionawr 1987. Gwnaed rhodd ohoni i ni gan Gwiltwyr Cranford o Knutsford yn Swydd Gaer. 2780 x 2305mm.
Cwrlid Hecsagonau o’r 1960au
Ref: 2009-10
Wedi’i wneud ar ddechrau’r 1960au gan un o drigolion Llanidloes, cafodd y gorchudd cwrlid plu bach hwn ei wneud ar ddechrau’r 1960au mewn ymateb i erthygl mewn cylchgrawn yn dangos sut i wneud cwiltiau gyda hecsagonau a chafodd ei wneud o ddarnau o ffabrig oedd dros ben. Daeth y damasg pinc hufen o wisg hwyrol a wisgwyd i Ddawns Mis Mai yng Nghaergrawnt ym mis Mai 1960 a daeth y ffabrig gwyrddlas o wregys a stôl a wisgwyd gyda hi fel cyfwisg. Mae wedi’i wneud o bedwar ffabrig gwahanol, i gyd yn reion mewn oren, brown rhydliw, hufen a gwyrdd golau.
Mae’n glytwaith o hecsagonau ac mae wedi’i wnïo â llaw ag edau frodio gan ddefnyddio gwahanol liwiau a oedd yn cyd-fynd â’r ffabrigau reion. Mae yna ddiemwnt yn y canol gyda borderi o’i amgylch. Er nad oes yna wadin, mae’n edrych fel petai wedi’i ddefnyddio fel gorchudd cwrlid plu. Roedd y cwrlid plu wedi’i dynnu allan a’r agoriad wedi’i bwytho i lawr – yn wir, cafwyd hyd i bluen pan roedd y darn yn cael ei ddogfennu. 1500 x 950mm.
Cwrlid Hecsagonau Pwff Crychog
Ref: 2019-5
Gwnaed y cwrlid tlws hwn gan nain y rhoddwr ac mae’r ochr ar i fyny wedi’i adeiladu o hecsagonau pwff, sy’n dechneg ddiddorol. Gwnaed ef o gotwm gwyn gyda gwead ychydig yn fwy llac na’r ffabrig cotwm gwyn ar y cefn. Mae’n edrych fel petai ganddo forder yn wreiddiol a gafodd ei dynnu oddi yno i wneud iddo ffitio gwely llai, ac felly’n gadael ymyl y cwrlid fel rhes o hecsagonau. 1350mm x 2000mm.
Cwrlid Cist Landin - Gardd Nain
Ref: 2022-6-A
Gwnaed y cwilt hwn gan Jane Hughes (Bate gynt) tua 1865, a gwnaed rhodd ohono gan ei gor-gor-nith. Prentisiwyd Jane i weithio gyda gwniadwraig safonol cyn sefydlu’i hun fel cwiltwraig yn Wolverhampton cyn priodi ym 1861.
Mae’r cwrlid hyfryd hwn sydd ar ddyluniad Gardd Nain wedi’i ffurfio o fosaigau hecsagonol sidan a rhubanau sidan mewn amrywiaeth o liwiau ar gefndir du. Mae’r cefn wedi’i wneud o ffabrig gwehyddiad diemwnt mewn lliw rhwd plaen sydd wedi’i dynnu i’r blaen o gwmpas yr ymyl i wneud border ac wedi’i drimio â brêd cul. 2455mm x 2370mm.