top of page
frame or medallion quilt EDITED.jpg

Cwilt Art Nouveau

Ref: 2001-8-F

2001-8-F art nouveau quilt
2001-8-F art nouveau quilt

Dyma ichi gwilt medaliwn pinc trawiadol â dylanwadau Art Nouveau. Cwilt priodas ydoedd ar gyfer Margaret Lallie Williams, a wnaed gan ei mam Lizzie Jane Williams. Priododd Margaret â John Roberts ar 4 Mehefin 1929 yng Nghapel Ebenezer, Llansadarn.

Roedd Lizzie yn byw yn Llansadarn ger Llanymddyfri yn ne-orllewin Cymru, lle gwnaed y cwilt. Roedd ei mab yng nghyfraith, John Roberts, yn rhedeg y Siop Dillad Dynion yn Nhŷ Cambrian yn Llanidloes yn ystod canol yr 20fed ganrif, ac yn y diwedd gwnaeth aelodau o’r teulu rodd o’r cwilt i’r Gymdeithas Gwiltiau.

Mae’r cwilt yn mesur 2140 x 1693mm, ac mae wedi’i wneud o satîn cotwm sglein mewn dau arlliw pinc a hefyd ffabrig print blodeuog. Gwlân yw’r wadin.

Mae calonnau, dail a chylchoedd wedi’u cwiltio â llaw mewn edau pinc. Mae’r cwilt yn ddarn poblogaidd mewn arddangosfeydd; mae wedi teithio i Ynys Môn a Llwydlo ar gyfer sioeau, ac mae hefyd wedi’i arddangos yng Nghanolfan Celfyddydau Minerva.

Clytwaith felfed (1870)

Ref: 2001-10

2001-10 velvet patchwork
2001-10 velvet patchwork

Anne Williams o Heol Torfaen, Caerffili a wnaeth y cwilt clytwaith felfed hwn (2115 x 1974 mm) ym 1870, a gwnaed rhodd ohono i’r Gymdeithas Gwiltiau gan ei theulu.

Mae wedi’i wneud o felfed sidan a chotymau â sail gwehyddiad plaen. Y prif liwiau yw marŵn, brown a glas mewn dyluniad clytwaith trawiadol gyda borderi, a medaliwn yn y canol. Mae’r clytwaith wedi’i gwiltio’n gain â llaw mewn edau gotwm ddu gyda medaliwn, gellygen persli, tiwlipau, ffaniau a dail hirgrwn. Satîn cotwm pinc yw’r cefn.

Mae’r cwilt wedi’i arddangos mewn dwy sioe haf yng Nghanolfan Celfyddydau Minerva, a hefyd yng Nghaergybi, Ynys Môn.

Cwilt gwr bonheddig (1911)

Ref: 2002-11

2002-11 the gentleman's quilt
2002-11 the gentleman's quilt

Gwnaed y cwilt hwn i Albert Swancote-Jones o Gwmbelan ger Llanidloes gan ei fam ym 1911. Albert oedd ei 11eg plentyn, ac roedd y fam yn benderfynol, wedi ei eni, y byddai ef yn cael ei gwilt ei hun, fel ei frodyr a’i chwiorydd. Pan oedd Albert yn ei wythdegau, fe symudodd i gartref gofal yn Llanidloes ac fe’i perswadiwyd i gamu i mewn i’r oes “fodern” gyda duvet newydd! Yna fe roddwyd y cwilt hwn i’r Gymdeithas Gwiltiau.

Mae’n mesur 2152 x 1760mm, ac mae o ddyluniad clytwaith medaliwn gydag ymylon. Gwlanenni Cymreig yw’r ffabrigau, ar wahân i’r siapiau appliqué sy’n gotwm. Cafodd ei gwiltio ar hap â pheiriant mewn edau gwyn, a defnyddiwyd pwyth cadwyn ar yr appliqué. Nid oes wadin, a fflaneléd sydd ar y cefn.

Mae’r cwilt yma wedi’i arddangos sawl tro, a rhoddwyd lle amlwg iddo yn sioeau haf y Gymdeithas Gwiltiau yn 2002 a 2004, a hefyd yng Nghanolfan Adnoddau Llyfrgell Llwydlo yn 2005. Fe’i dangoswyd yn 2009 yn yr Ŵyl Gwiltiau yn yr NEC yn Birmingham. Y cwilt hwn oedd ysbrydoliaeth yr artist tecstilau Bobby Britnell ar gyfer darn cyfoes o waith a ddangoswyd yn sioe haf y Gymdeithas Gwiltiau yn 2002, a hefyd yng nghasgliad y Gymdeithas (2002-28 Yr Unfed Plentyn ar Ddeg).

Cwilt seren fôr (c1830s)

Ref: 2002-14

2002-14 starfish quilt
2002-14 starfish quilt
2002-14 starfish quilt

Dyma gwilt mewn arddull diemwnt mewn sgwâr, mewn lliwiau llwydfelyn a rhuddgoch a chyda chwiltio hynod gain. Fe’i prynwyd ar gyfer y casgliad oddi wrth fasnachwr a gafodd afael arno yn Hwlffordd yn ne-orllewin Cymru.

Mae’r cwilt yn mesur 2356 x 2135mm, ac fe’i gwnaed o wlân wstid ar y tu blaen a defnydd lliain ar y cefn. Bu Philip Sykas yn astudio’r cwilt ym mis Medi 2009, ac esboniodd fod ffabrig gwlân wstid yn cael ei ddefnyddio’n aml mewn peisiau merched yn y 18fed ganrif. Fodd bynnag, cwilt o’r 19eg ganrif yw hwn, oherwydd mae wedi’i gwiltio ag edau gotwm, ac fe’i gwnaed yn ôl pob tebyg rhwng 1830 a 1850. Haen denau o wlân wedi’i gardio rhwng dwy haen o ffabrig wstid yw’r wadin.

Mae blodau, troellau, sêr môr a cheblau i’w gweld yn y cwiltio, a wnaed mewn edau gotwm o liw hufen. Mae’r ymylon ceblau’n nodweddiadol o ddyluniadau Sir Benfro. Gwnaeth tri gwirfoddolwr ddargopi o’r cwiltio – cymerodd ddeuddydd cyfan i ddargopïo’r dyluniad cyfan.

Mae’r cwilt hardd hwn wedi’i arddangos yn eang, gan gynnwys yng Nghanolfan Celfyddydau Minerva, Canolfan Adnoddau Llyfrgell Llwydlo a Chanolfan Celfyddydau Caergybi ar Ynys Môn. Mae’n cael lle amlwg yn y llyfr Making Welsh Quilts gan Clare Claridge a Mary Jenkins, David & Charles, 2005.

Diemwnt mewn sgwâr (c1910)

Ref: 2002-18-B

2002-18-B diamond in a square
2002-18-B diamond in a square

Cwilt clytwaith bob dydd ar arddull medaliwn yw hwn, gyda diemwnt mewn sgwâr i’w weld yn y canol. Gwnaed ef yng nghymoedd De Cymru ar ddechrau’r 20fed ganrif o ffabrigau print cotwm ysgafn o nifer o wahanol gyfnodau. Samplau teilwriaid o ffabrigau gwisg yw llawer o’r rhain, yn defnyddio cyfuniadau lliwiau gwahanol o’r un print. Mae tu ôl y cwilt wedi’i wneud o ffabrigau plaenach mewn lliwiau cryfach.

Sarah Ann Davies (1862 – 1944), a aned ym Mhontrhydyfen, oedd y gwiltwraig. Bu farw ei mam o’r diciâu pan roedd yn ddwyflwydd, a magwyd hi’n gariadus gan ei llysfam. Oherwydd tlodi, bu’n rhaid iddi adael cartref pan roedd yn 10 oed, i ddod yn llaethferch yn Llangyfelach ac, yn ddiweddarach, yng Nghastell-nedd. Byddai’n dod adref wedi ymlâdd yn llwyr ar ei dyddiau prin i ffwrdd o’r gwaith. Rhoddai ei llysfam groeso cynnes iddi, ond ar ôl ei rhoi i eistedd wrth y tân gyda chwpanaid o de poeth, byddai’n rhoi hosan wedi hanner ei gwau neu ddarn o waith gwnïo iddi weithio arno.

Priododd Sarah Ann â David Davies yn Aberdâr, a dechreuodd wnïo cwiltiau i’w theulu ei hun a oedd yn cynyddu’n gyflym. Glöwr oedd David, a flinodd ar yr aflonyddwch diwydiannol parhaus yn yr ardal, ac a symudodd y teulu o Aberdâr i Abertridwr lle cafodd waith yng Nglofa Windsor. Ganwyd wyth plentyn i Sarah ond bu farw nifer ohonyn nhw’n ifanc iawn. Bu’n brwydro’n galed trwy gydol ei bywyd yn erbyn y tlodi enbyd a wynebai. Fodd bynnag, roedd ei safonau bob amser yn uchel a byddai’r tŷ’n sgleinio – ni wastraffwyd ceiniog a gwnaed defnydd da o bopeth.

Mae gan y Gymdeithas Gwiltiau nifer o gwiltiau clytwaith Sarah, a wnaed o ffabrigau “wedi’u hailgylchu” a llyfrau patrymau o siopau defnyddiau yn Abertridwr. Mae’r brethyn cyfan hwn yn eithriad o bosibl – wedi’i wneud i fod y gorau. Wrth i’w merched dyfu, fe ddysgodd Sarah nhw i wneud clytwaith a chwiltio. Cofia Eunice, ei merch, gael ei dysgu’n blentyn i wnïo’r clytiau at ei gilydd ac yna, pan roedd yr wynebau wedi’u gorffen, deuai’r ffrâm gwiltio o’r tu ôl i’r soffa rhawn er mwyn dechrau’r broses gwiltio.

Cwrlid clytwaith felfed (c1860)

Ref: 2004-1-C

2004-1-C velvet patchwork coverlet
2004-1-C velvet patchwork coverlet

Dim ond 36 x 36cm yw’r cwrlid clytwaith bach hwn, a ddefnyddiwyd mae’n debyg i addurno bwrdd. Roedd felfed a sidan yn ffabrigau poblogaidd yng nghanol oes Fictoria, rhwng 1850 a 1875, a byddai clustogau, carthenni a chapiau tebot, wedi’u cynhyrchu mewn clytwaith mosäig neu glytwaith ar hap, wedi addurno ambell i barlwr.

Mae’r sgwariau bach 25mm o felfed wedi’u huno dros bapurau. Mae un rhes yn cynnwys y papurau o hyd, wedi’u torri o gatalog, ac mae rhywfaint o’r brasbwythau hefyd ar ôl.

Mae yna wyth rhes i gyd o’r sgwariau mosäig. Mae pum rhes o felfed yn llunio medaliwn tywyll yn y canol, gyda thair rhes allanol o sidan mewn lliwiau mwy golau.

Gwnaed rhodd o’r darn o Orllewin Sussex, ynghyd â nifer o eitemau tecstilau bach eraill.

Cwrlid clytwaith (c1880s)

Ref: 2009-1-E

2009-1-E patchwork coverlet
2009-1-E patchwork coverlet

Gwnaed rhodd o’r cwrlid clytwaith hwn o ddiwedd y 19eg ganrif gan deulu o Swydd Gaer, ynghyd â nifer o eitemau tecstil eraill, gan gynnwys cwrlid diemwntau appliqué y gallwch ei weld yma. Ers hynny, mae’r Gymdeithas Gwiltiau wedi prynu cwilt brethyn cyfan oddi wrth yr un teulu, ac mae hwn i’w weld yma.

Mae’r cwrlid wedi’i wneud o ddarnau o wahanol ffabrigau cotwm gwisgoedd a chrysau sy’n nodweddiadol o’r cyfnod. Mae twil cotwm coch hefyd wedi’i ddefnyddio ar gyfer rhai o’r clytiau. Er mai cwrlid bob dydd yw hwn, yn y bôn, mae’n amlwg ei fod wedi’i gynllunio’n ofalus i gael yr effaith fwyaf bosibl, gyda diemwnt yn y panel clytwaith sgwâr yn y canol a phedwar border wedi’u huno o’i amgylch.

Mae yna nifer fawr o ffabrigau gwisgoedd porffor golau, a oedd yn boblogaidd iawn yr adeg honno. Ym 1856, gwnaeth y cemegydd William Perkin o Loegr ddarganfod ar ddamwain bod modd synthesu anilin, sef sgil-gynnyrch col-tar, i greu staen porffor ar sidan. Fe sefydlodd William ffatri yn ddiweddarach i gynhyrchu ei liw synthetig newydd o’r enw ‘môf’. Cyn bo hir, daeth lliwiau synthetig eraill mewn glas, coch a gwyrdd, a hybwyd y rhain yn frwd mewn arddangosfeydd yn Llundain. Erbyn y 1870au, roedd gwneuthurwyr tecstilau wedi mabwysiadu’r lliwiau newydd hyn yn frwd, gan gynhyrchu symiau mawr o ffabrigau gwisgoedd rhad yn y lliwiau newydd ffasiynol.

Mae llinellau syml o gwiltio â llaw mewn edau wen yn dal y ddwy ochr at ei gilydd. Mae’r cwrlid wedi’i rwymo â thwil cotwm coch. Ffabrig cotwm gwead plaen gwyn yw’r ffabrig ar y cefn.

Cwilt medaliwn wal frics

Ref: 2010-1

2010-1 brickwall medallion quilt
2010-1 brickwall medallion quilt

Cwilt medaliwn wal frics, wedi'i gwiltio â  llaw, yw hwn.

Gwnaed rhodd ohono i elusen yn Nhrefyclo a oedd yn casglu ar gyfer Rwmania, ac yna cynigwyd ef i’r Gymdeithas yn gyfnewid am rodd.

Mae’r medaliwn yn y canol ar arddull wal frics mewn defnyddiau gwlân, fflaneléd a chotwm twil. Gwlân a chotwm yw’r borderi, ac mae’r tu ôl wedi’i wneud o ffabrig crysau cotwm. Defnyddiwyd cotwm crai gyda’r hadau dal ynddo ar gyfer y wadin.

Mae’r cwilt wedi’i gwiltio â llaw mewn edefion du a gwyn. Mae pob border wedi’i gwiltio ar wahân, ac mae gan y border allanol batrwm diemwnt. Mae’r cwiltio’n newid cyfeiriad bob tro y mae’n dod i forder newydd.

Clytwaith medaliwn y 1930au

Ref: 2010-4

2010-4 1930s medallion patchwork
2010-4 1930s medallion patchwork

Cwilt clytwaith â medaliwn yn y canol yw hwn a wnaed, mae'n debyg, yn y 1930au.

Mae’r ffabrigau’n cynnwys cotwm print, lliain, reion, ffabrigau crysau a gwisgoedd a rhai ffabrigau dodrefn. Mae’r gwneuthurwr wedi bod yn hynod greadigol wrth ddefnyddio llyfrau samplau ffabrigau, ac mae yna rai enghreifftiau ardderchog o ffabrigau’r 1930au i’w cael yn y cwilt. Mae yna amryw o batrymau, gan gynnwys streipiau (afreolaidd a rheolaidd), patrymau blodeuog a smotiau. Lliwiau coch, pinc, glas a gwyn sydd yma’n bennaf.

Blanced wlân Gymreig mewn streipiau hufen a glas tywyll yw wadin y cwilt.

Mae’r darnau wedi’u huno â pheiriant, ac mae’r clytwaith ar arddull nodweddiadol Gymreig gyda medaliwn â borderi yn y canol. Mae wedi’i gwiltio â llaw mewn edau wen. Mae’r cwiltio’n dilyn patrwm y clytwaith medaliwn.

Mae’r ymylon wedi’u bytio, a chlytwaith ar arddull wal frics yw’r cefn, ond wedi’i wneud mewn stribedi sydd wedi’u huno.

Cwilt clytwaith medaliwn canolog (1910)

Ref: 2012-1

2012-1 central medallion patchwork quilt
2012-1 central medallion patchwork quilt

Dyma ichi enghraifft dda o ddau gwilt mewn un! Cwilt clytwaith o Ganolbarth Cymru sydd ag ôl llawer o draul arno yw hwn, â chwilt hŷn wedi’i ddefnyddio fel wadin. Cafodd ei wneud ym 1910 yn Lluastdolgwial, Llangurig, ger Llanidloes gan Mary Griffiths, a rhoddwyd ef i’w mab John Daniel Griffiths pan fu’n briod ag Ellen Leete yn Llundain.

Mae’r hen gwilt wedi’i wneud o ddarnau satîn cotwm a thartan gwlân, ac mae i’w weld yn glir trwy gefn yr ail orchudd lle mae wedi treulio. Mae’r darnau wedi’u huno â llaw ac yn y canol ceir medaliwn gydag olwyn binnau, gwyddau’n hedfan a borderi triongl.

Clytwaith yw’r cwilt diweddaraf hefyd, â medaliwn yn y canol ar y naill ochr a brethyn cyfan mewn ffabrig â phatrwm blodeuog coch ar yr ochr arall. Mae stribedi o ffabrigau wedi’u huno â pheiriant. Yn y clytwaith ceir ffabrigau â streipiau, smotiau, patrymau blodeuog a diemwntau.

Mae blanced wedi’i ddefnyddio fel wadin yn un pen lle mae adran ychwanegol wedi’i hychwanegu i wneud y cwilt diweddaraf yn fwy. Defnyddiwyd wadin gwlân heb ei gribo yn y cwilt gwreiddiol.

Mae’r cwilt wedi’i gwiltio â llaw mewn edau wen, â phatrymau troellau, llinellau a delltwaith syml.

Diden diemwnt porffor (c1950)

Ref: 2012-5

2012-5 purple diamond comforter
2012-5 purple diamond comforter

Gorchudd gwely naill-ochr wedi’i gynhyrchu’n fasnachol yw hwn. Y British Quilting Company a’i wnaeth, yng nghanol yr 20fed ganrif. Roedd y cwmni’n gweithredu yn nhref fechan Waterfoot yng nghwm Rossendale i’r gogledd o Fanceinion rhwng 1912 a 1970, yn cynhyrchu cynhyrchion amrywiol, gan gynnwys y cwilt ‘Comfy’. Mae’n un o ddau gwilt o’r fath yng nghasgliad y Gymdeithas Gwiltiau.

Roedd yna dair arddull i’r gorchuddion gwely naill-ochr roedd y BQC yn eu cwiltio â pheiriant. Mae’r ‘Comfy’ hwn yn yr arddull clytwaith, yn defnyddio border a diemwntau o chwith. Ffabrig porffor plaen sydd ar y naill ochr, a phrint blodeuog persli sydd ar y llall. Mae’r siâp diemwnt wedi’i gwiltio â pheiriant mewn llinellau cyfochrog tonnog, a thorrwyd ef allan a’i droi drosodd cyn ei wnïo yn ôl i lawr. Fersiynau brethyn cyfan a ffrâm dwbl oedd y ddwy arddull arall.

Ychydig iawn oedd yn hysbys am gynhyrchu cwiltiau ‘Comfy’ tan 2012, pan gyflwynodd Janet Rae bapur yn seminar benwythnos flynyddol Grŵp Astudio Cwiltiau Prydain yn Neuadd Gregynog ger y Drenewydd, Powys, yn amlinellu’r ymchwil roedd wedi’i chwblhau ynglŷn â hanes a tharddiad y gorchuddion gwely hyn. Yn gyntaf, aeth ati i ddefnyddio cofnodion ac archifau lleol i olrhain y cwmni â logo ‘Comfy’. Yna aeth ymlaen i gyfarfod â chyn weithwyr y ffatri, rhai ohonyn nhw wedi dechrau gwaith yn y ffatri pan roedden nhw’n 14 oed, a dysgodd mwy am y cynhyrchion (gan gynnwys gorchuddion pramiau a gynau llofft) a thechnegau cynhyrchu.

Gwnaeth Janet ddarganfod nad oedd pob cynnyrch yn dibynnu ar ddefnyddio’r peiriannau aml-nodwydd Americanaidd: byddai llawer o’r menywod hefyd yn gweithio ar gwiltiau a gorchuddion gwely ar beiriannau ag un nodwydd, gan ddilyn patrymau wedi’u marcio â thempledi. Roedd y gweithwyr yn cofio torri’r siâp diemwnt allan â llafn llaw trydan bach. Bydden nhw’n defnyddio peiriant â dwy nodwydd i wnïo rhwymiad o amgylch y diemwnt a’r borderi. Byddai cynhyrchion ‘Comfy’ yn cael eu pecynnu mewn bagiau canfas sgwâr mawr a fyddai’n cael eu cau â phwythau â llaw. Rhyw £4 yr wythnos oedd tâl y gwniadwragedd, er y gallen nhw hefyd fod wedi derbyn cyfradd fesul darn.

Mae mwy o wybodaeth am y cwiltiau ‘Comfy’ roedd BQC yn eu cynhyrchu ym Melin Holt yn Waterfoot ar gael yn “Quilt Studies: The Journal of The British Quilt Study Group, Rhifyn 13, 2012”.

Cwilt Ffrâm

Ref: 2002-1

2002-1 frame quilt
2002-1 frame quilt detail

Prynwyd y cwilt ffrâm clytwaith hwn mewn arwerthiant ym Machynlleth ac mae’n dyddio o’r 1920au/30au.  Gwlanenni crysau plaen, patrwm sgwarog a streipiog, melfed, satîn cotwm mewn glas, brown a du a choch yw’r ffabrigau clytwaith ar yr ochr ar i fyny ac mae’r dyluniad wedi’i wneud o sgwariau, hirsgwarau a thrionglau. 

 

Mae’r cefn wedi’i wneud o ddarnau o dwil du, gwehyddiad gwyrdd a ffabrig ystofweol mewn streipiau du a glas golau.  Nid oes unrhyw wadin ynddo a gwnaed y cwiltio â llaw ag edau ddu.  2155 x 2125mm.

Cwilt Ffrâm

Ref: 2002-3

2002-3 frame quilt
2002-3 frame quilt detail

Yn wreiddiol, gwnaed y cwilt hwn a brynwyd ym Machynlleth gan y rhoddwr, gydag amrywiaeth o ffabrigau print, rhai ohonyn nhw yn nodweddiadol o’r 1840au, ond wedyn cafodd ei glytio â ffabrigau o’r 1970au, rhai ohonyn nhw yn batrymau Laura Ashley.  Brown a glas yw lliwiau gwreiddiol yr ochr ar i fyny a gwnaed y cefn o liain hufen. 

 

Rhyngddyn nhw ceir wadin o wlân wedi’i gribo.  Mae’r haenau wedi’u cwiltio â llaw mewn edau gotwm hufen gyda dyluniad o ddail, petalau, blodau a ffan.  Mae’n amlwg bod y cwilt wedi’i ddefnyddio fel gorchudd rhag llwch, gan fod marciau paent a staeniau olew arno sydd wedi dirywio’r ffabrig, ac mae wedi’i drwsio â chlytiau a chorneli newydd.  2080 x 1820mm.

Cwilt Pinc a Gwyrdd gyda Chylchoedd

Ref: 2002-4

2002-4 pink and green quilt with circles detail
2002-4 pink and green quilt with circles

Cwilt anorffenedig mewn arddull Art Deco a brynwyd mewn arwerthiant yw hwn.  Rydyn ni o’r farn bod y ffabrigau cotwm a ddefnyddiwyd – blodau, smotiau, streipiau a chylchoedd mewn pinc, gwyrdd a brown – yn ôl pob tebyg yn dyddio o’r 1970au a’r 1980au. 

 

Mae gan yr ochr ar i fyny, a bwythwyd â pheiriant, fedaliwn yn y canol (gyda wadin ychwanegol y tu ôl iddo) gydag ychydig o gwiltio â pheiriant arno mewn pinc.  Cwrlid gwely yw’r cefn gyda phrint gwan o flodau sydd wedi pylu.  Mae’r wadin yn cynnwys blanced arw a gwnaed y cwiltio â llaw mewn llinellau ymledol mewn edau brown.  2130 x 2105mm.

Cwilt Clytwaith Medaliwn

Ref: 2002-18-D

2002-18-D medallion
2002-18-D medallion reverse

Un yw hwn o gasgliad o nifer o gwiltiau a wnaed rhwng tua 1900 a’r 1920au gan yr un fenyw a oedd wedi dechrau gwnïo yn ifanc iawn.  Yn ddeg oed, cafodd ei hanfon oddi cartref i weithio fel morwyn laeth ond parhaodd i wnïo ar ei dyddiau prin i ffwrdd – byddai ei llysfam yn dweud wrthi, ”Unrhyw bwyth wnei di nawr, ni fydd rhaid ei weithio eto.”   Daeth i oed, priododd ac aeth i fyw yn Aberdâr gyda’i gŵr, a oedd yn löwr, cyn symud i Abertridwr gyda’i theulu a oedd yn cynyddu.  Yn y fan honno y gwnaeth hi’r cwiltiau rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw nawr.  Gwnaed pob un o ffabrigau oedd wedi’u hailgylchu a’r rheini o lyfrau patrwm yr oedd y siop ddeunyddiau yn Abertridwr yn eu cadw. Wrth i’w merched dyfu, dysgodd hi grefft clytwaith iddyn nhw. Cofia un ohonyn nhw gael ei dysgu’n blentyn i wnïo’r clytiau at ei gilydd ac yna, pan roedd yr ochrau ar i fyny wedi’u gorffen, deuai’r ffrâm gwiltio o’r tu ôl i’r soffa rhawn er mwyn dechrau’r broses gwiltio. 

 

Mae’r cwiltiau hyn yn “llyfrau patrymau” yn eu hunain a gellir dysgu llawer am fywyd y Cymoedd yn ystod chwarter cyntaf y ganrif wrth eu hastudio. 

Clytwaith wedi’i wneud o samplau crysau a gwlân yw ochr ar i fyny’r cwilt.  Mae gan rai darnau rifau wedi’u stampio arnyn nhw oherwydd eu bod wedi’u gwneud o ffabrig ar ddiwedd y rholyn.  Yn y canol mae medaliwn hirsgwar gyda rhesi mewn patrwm wal frics o’i amgylch i ffurfio border.  Pinc, gwyn a glas yw’r lliwiau yn bennaf, er bod pedwar clwt mewn lliwiau llachar wedi’u pwytho ymlaen yn ddiweddarach.  Mae’r cefn yn cynnwys mwy o ddeunyddiau crysau ac mae wedi’i faeddu mwy.  Defnyddiwyd amrywiol ffabrigau fel wadin a gwnaed y cwiltio â llaw mewn edau wen. 

2113 x 1940mm.

Cwilt Medaliwn

Ref: 2002-18-H

2002-18-H medallion 2
2002-18-H medallion 2 reverse
2002-18-H medallion 2 detail

Un yw hwn o gasgliad o nifer o gwiltiau a wnaed rhwng tua 1900 a’r 1920au gan yr un fenyw a oedd wedi dechrau gwnïo yn ifanc iawn.  Yn ddeg oed, cafodd ei hanfon oddi cartref i weithio fel morwyn laeth ond parhaodd i wnïo ar ei dyddiau prin i ffwrdd – byddai ei llysfam yn dweud wrthi, ”Unrhyw bwyth wnei di nawr, ni fydd rhaid ei weithio eto.”   Daeth i oed, priododd ac aeth i fyw yn Aberdâr gyda’i gŵr, a oedd yn löwr, cyn symud i Abertridwr gyda’i theulu a oedd yn cynyddu.  Yn y fan honno y gwnaeth hi’r cwiltiau rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw nawr. 

 

Gwnaed pob un o ffabrigau oedd wedi’u hailgylchu a’r rheini o lyfrau patrwm yr oedd y siop ddeunyddiau yn Abertridwr yn eu cadw. Wrth i’w merched dyfu, dysgodd hi grefft clytwaith iddyn nhw. Cofia un ohonyn nhw gael ei dysgu’n blentyn i wnïo’r clytiau at ei gilydd ac yna, pan roedd yr ochrau ar i fyny wedi’u gorffen, deuai’r ffrâm gwiltio o’r tu ôl i’r soffa rhawn er mwyn dechrau’r broses gwiltio.  Mae’r cwiltiau hyn yn “llyfrau patrymau” yn eu hunain a gellir dysgu llawer am fywyd y Cymoedd yn ystod chwarter cyntaf y ganrif wrth eu hastudio. 

Gwnaed y cwilt hwn o amrywiaeth o ffabrigau gan gynnwys ffabrig clustogwaith, cotymau, deunyddiau crysau gwlanen a reion, yn ôl pob tebyg tua diwedd y cyfnod creu gan ei fod yn cynnwys ffabrigau o’r 1920au.  Clytwaith yw’r ochr ar i fyny o fedaliwn brown sgwâr gyda rhesi o glytiau hirsgwar o amrywiol feintiau mewn arddull wal frics o’i amgylch.  Blanced denau yw’r wadin a gwnaed y cefn o gwrlid wedi’i wneud o gotwm garw wedi’i stensilo mewn coch.  Mae wedi’i gwiltio â llaw mewn edau gotwm wen ac mae hi dal yn bosibl gweld rhai o’r llinellau cwiltio, wedi’u marcio mewn glas a choch.    2230 x 1990mm.

Cwilt Clytwaith Medaliwn gyda Chylchoedd

Ref: 2003-7-A

2003-7-A medallion patchwork with circles
2003-7-A medallion patchwork with circles detail

Mae hwn yn un o bâr o gwiltiau yr oedd un teulu yn Ne Cymru yn berchen arnyn nhw.  Ar y cefn mae yna label bychan wedi’i wehyddu yn un o’r corneli gyda phwythau arno’n dweud 1881. Clytwaith yw’r ochr ar i fyny, gyda medaliwn yn y canol o un cylch mawr a phedwar cylch cylchrannog. Mae tri border ar ochrau’r medaliwn a phedwar border ar bob pen.

 

Twil cotwm coch a chotymau gwehyddiad plaen, print plaen a phatrymog mewn coch, porffor golau a hufen yw’r ffabrigau a ddefnyddiwyd.  Darn o gotwm gwehyddiad plaen hufen yw’r cefn a gwlân wedi’i gribo yw’r wadin.  2090 x 1804mm.

Cwilt Medaliwn Cymreig

Ref: 2004-5

2004-5 Welsh medallion quilt
2004-5 Welsh medallion quilt detail

Cwilt Cymreig yw hwn sydd mewn cyflwr gwael iawn.  Fodd bynnag, mae’n ddiddorol oherwydd y ffabrigau a ddefnyddiwyd a’r dulliau o adeiladu’r cwilt sydd i’w gweld.  Cafodd ei achub o dŷ ym Mhontarfynach – roedd rhywun eisoes wedi torri darn ohono i’w roi i’r peintiwr a’r papurwr i lanhau paent oedd wedi’i golli.  Nid ydyn ni’n sicr pryd y cafodd ei wneud ond gan fod yna bwythau peiriant i’w gweld, roedd ar ôl 1845.

 

Clytwaith wedi’i bwytho â pheiriant yw’r ochr ar i fyny, gyda medaliwn yn y canol a borderi.  Satîn cotwm, cotymau gwehyddiad plaen, cotymau gwisgoedd a chrysau – rhai yn blaen, rhai yn flodeuog – mewn coch, pinc, glas golau a gwyn yw’r ffabrigau a ddefnyddiwyd.  Hen gwilt yw’r wadin wedi’i wneud o ffabrig gwehyddiad twil, llwyd golau sydd â wadin cotwm y tu mewn – mae rhai o’r hadau’n dangos.  Clytwaith yw’r cefn hefyd mewn arddull medaliwn.  Mae wedi’i gwiltio â llaw mewn edau goch gyda dyluniad yn cynnwys troellau, dail, cyrn hyrddod, sgroliau a bwâu. 1806 x 1802mm.

Cwilt Cot Gwlanen

Ref: 2007-6-B

2007-6-B flannel cot quilt
2007-6-B flannel cot quilt detail

Cafwyd y cwilt hwn mewn siop hen bethau yn Llanidloes, ar ôl iddo ddod i law yn ystod gwaith clirio tŷ.  Roedd y fenyw a oedd berchen arno wedi gweithio yn y ffatri ledr leol.  Gwnaed ef tua 1930 yn un o’r wyth melin wlanen yn Llanidloes.  Anfonwyd y wlanen a wnaed yn y felin i Dde Cymru a byddai’n cael ei defnyddio i wneud crysau’r glowyr. 

 

Mae gan y cwilt fedaliwn yn y canol gyda borderi ac mae wedi’i bwytho â pheiriant o wlanen mewn arlliwiau o lwydfelyn, pinc, llwyd, porffor golau a streipiau glas.  Mae’r cefn wedi’i wneud o ddeunydd crysau cotwm a pheth gwlanen.  1230 x 1020mm

Cwilt Ffrâm Cymreig

Ref: 2009-3

2009-3 welsh frame quilt
2009-3 welsh frame quilt detail

Mae’r cwilt ffrâm hwn sydd wedi treulio’n arw ac wedi pylu, wedi’i gwiltio’n gain â phatrymau traddodiadol Cymreig.  Wedi’i wneud o gwmpas 1870-1880 o ffabrigau cotwm (rhai print, rhai ffrâm), mae yna ddarn o glytwaith medaliwn gyda diemwnt mewn sgwâr yn y canol gyda phedwar border o’i gwmpas.

 

Gwlân yw’r wadin ac mae yna haen ychwanegol o fwslin rhyngddo a’r ochr ar i fyny.  Cotwm yw’r cefn mewn patrwm persli coch a gwyn ac mae wedi’i wneud o dri hyd wedi’u huno â’i gilydd.  Gwnaed y cwiltio â llaw mewn troellau, dail a ffaniau gyda rhosyn yn y canol a llinellau dwbl rhwng y borderi.   1860 x 1750mm.

Ochr ar i fyny Clytwaith Medaliwn

Ref: 2017-1-G

2017-1-G medallion patchwork
2017-1-G medallion patchwork detail

Gwnaed y clytwaith ochr ar i fyny anorffenedig hwn ym Merthyr Tudful rhwng canol a diwedd y 19eg Ganrif.  Mae wedi’i wneud o amrywiaeth fawr o ffabrigau, gan gynnwys twil cotwm ar gyfer y lliwiau hufen a gwyn.  Ffabrigau crysau a gwisgoedd yw’r ffabrigau patrymog yn bennaf, wedi’u printio â streipiau, smotiau, blodau, patrymau sgwarog, siapiau a motiffau fel bachau pysgota. Mae rhai yn ffabrigau o lyfrau samplau mewn cyfuniadau lliwiau gwahanol o’r 1820au-1850au.

 

Mae gan yr ochr ar i fyny fedaliwn yn y canol wedi’i wneud o ffabrigau lifreion milwrol gan gynnwys gwlanen goch, glas tywyll a mwstard ar ffurf seren ag wyth pig, yn dwyn i gof y rhai a welwyd ar gwiltiau milwrol yn dyddio o amser Rhyfel y Crimea.  Mae yna bedwar border, dau yn hufen a gwyn, un arall yn octagonau ac mae’r border olaf wedi’i wneud o sgwariau bach wedi’u pwytho.  Mae’r darnau wedi’u gwnïo â llaw, rhai ohonyn nhw wedi’u pwytho’n hynod gain.  Mae rhai o’r papurau dal i’w gweld ar y cefn. 2140mm x 1845mm.

Cwilt Llidiartywaen

Ref: 2019-3

2019-3

Gwnaed y cwilt hwn yn lleol yn Llidiartywaen ger Llanidloes a gwnaed rhodd ohono gan aelod o’r teulu.  Gwnaed ef o gwmpas 1900 o ffabrigau gwlân mewn coch, du, caci a llwyd.  Mae gan yr ochr ar i fyny fedaliwn crwn yn y canol wedi’i addurno â phwythau pryf, dau forder o drionglau hanner sgwâr a border arall â sgwariau llai ar eu hochr. 

 

Mae yna forderi eraill a gafodd, mae’n debyg, eu hychwanegu yn ddiweddarach. Cwiltiwyd y medaliwn yn y canol â llaw gan ddilyn llinellau’r semau. Rhoddwyd cefnyn ychwanegol yn ddiweddarach a chwiltiwyd hwn â pheiriant gan ddefnyddio llinellau lletraws.  Mae yna rywfaint o frodwaith yn y corneli.  1850mm x 1915mm.

Cwrlid Stepiau Llysty Pinc a Gwyn

Ref: 2019-6

2019-6

Gwnaed y cwrlid bychan hwn yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif gan nain y rhoddwr.  Mae’n fersiwn ar raddfa lai o gwilt nodweddiadol Cymreig.  Mae’r ochr ar i fyny yn glytwaith wedi’i wneud o flociau ‘Stepiau Llysty’ sydd wedi’u pwytho â’i gilydd â pheiriant.  Cotwm pinc a gwyn yw’r ffabrig a ddefnyddiwyd, gyda’r cefn wedi’i wneud o dri phanel cotwm anghyfartal. Cwiltiwyd yr ochr ar i fyny a’r cefn â’i gilydd â llaw gan ddefnyddio dyluniad o fedaliwn yn y canol gyda chregyn bylchog, troellau a diemwntau.  Mae ffril wedi’i chrychu â llaw, 80mm o drwch, yn gorffen y cwilt deniadol hwn.  780mm x 930mm.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â Y Gymdeithas Gwiltau neu
Canolfan Celfyddydau Minerva, cysylltwch â ni yma

bottom of page