Cefnogwch y Gymdeithas Gwiltian
Byddwch yn Ffrind
Os ydych chi wedi mwynhau ymweliad ag un o’r arddangosfeydd haf blynyddol o gwiltiau yng Nghanolfan Celfyddydau Minerva, neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn cwiltiau treftadaeth, yna beth am ystyried ymuno â’r Gymdeithas Gwiltiau fel Cyfaill?
Byddwch chi’n helpu i sicrhau dyfodol Casgliad Cwiltiau Treftadaeth Cymru, sydd yn y Ganolfan yma yng Nghymru. Fel Cyfaill, byddwch chi’n cael y cyfle i astudio cwiltiau o’r casgliad ar gyfer ymchwil bersonol neu ddibenion addysgol. Gall Cyfeillion gysylltu â’r curadur i drefnu apwyntiad ar gyfer ymweliad o’r fath.
Ar wahân i’n helpu ni i dyfu a chynnal ein casgliad, mae Cyfeillion yn elwa o gael mynediad am ddim i’r arddangosfa haf flynyddol, ac yn derbyn cylchlythyr chwarterol sydd â gwybodaeth am arddangosfeydd, a rhybudd cynnar ynglÅ·n â digwyddiadau sydd ar y gweill yng Nghanolfan Celfyddydau Minerva yn Llanidloes, fel gweithdai a sgyrsiau.
Lawrlwythwch ein Ffurflen Gais Ffrind yma
Dod yn Aelod
Bydd aelodau’n cael yr hawl gyfreithiol ychwanegol i fynychu Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol a Chyfarfodydd Cyffredinol Eithriadol, a phleidleisio ynddyn nhw, ond bydd ganddyn nhw hefyd atebolrwydd cyfyngedig os caiff y Gymdeithas ei dirwyn i ben. Bydd yn rhaid i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr gymeradwyo aelodau newydd.
Lawrlwythwch ein Ffurflen Gais Aelod yma
Gwneud Rhodd